Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Siân Phipps Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Agorodd y Clerc y cyfarfod a gofynnodd am enwebiadau ar
gyfer cadeirydd dros dro. Penodwyd Alun Ffred Jones yn gadeirydd dros dro tan
gyrhaeddodd Nick Ramsay. Croesawodd y cadeirydd dros dro bawb i’r cyfarfod. Cafwyd
ymddiheuriadau gan Julie James, Keith Davies a Dafydd Elis-Thomas. Nid oedd
unrhyw ddirprwyon. |
||
(09.20 - 09:25) |
Cynnig i sefydlu is-bwyllgor ar gyfer Rheoliadau Mangreoedd etc Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor y Cynnig. |
|
(09:25 - 10:15) |
Ymchwiliad i Drafnidiaeth Gyhoeddus Integredig - Sesiwn Dystiolaeth Canolfan Ymchwil Trafnidiaeth
Cymru Yr Athro Stuart Cole CBE, Athro Emeritws ym maes Trafnidiaeth, Canolfan Ymchwil Trafnidiaeth Cymru, Prifysgol Morgannwg Dogfennau ategol:
Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd yr Athro Stuart Cole i’r cyfarfod. Holodd yr Aelodau’r tyst. |
|
(10:15 - 11:00) |
Ymchwiliad i Drafnidiaeth Gyhoeddus Integredig - Sesiwn Dystiolaeth Cymdeithas Swyddogion Cydgysylltu Trafnidiaeth Cymru Richard Cope, Rheolwr yr Uned Trafndiaeth i Deithwyr, Cyngor Sir Fynwy Tracey Mcadam, Rheolwr yr Uned Trafnidiaeth Integredig, Cyngor Dinas Casnewydd Hubert Mathias, Rheolwr Trafnidiaeth a Fflyd, Cyngor Sir Penfro Dogfennau ategol:
Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd Richard Cope a Tracey Mcadam. Cafwyd ymddiheuriadau gan Hubert
Mathias. Holodd yr Aelodau y tystion i’r cyfarfod. Cam i’w gymryd: Cytunodd
Cymdeithas Swyddogion Cydgysylltu Trafnidiaeth Cymru i ddarparu nodyn i’r Pwyllgor
yn dweud sut mae’n credu y dylai Llywodraeth Cymru geisio dylanwadu ar reolau
Cystadleuaeth y DU, yng nghyd-destun argymhellion Comisiwn y Gystadleuaeth ar
wasanaethau bws lleol. |
|
Trawsgrifiad |