Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Cyswllt: Llinos Dafydd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Elin Jones a Lynne Neagle. Nid oedd dim dirprwyon. |
||
(13.30 - 15.00) |
Ymchwiliad undydd i wasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru - tystiolaeth lafar |
|
(13.30 - 14.15) |
Safbwynt darparwr y GIG HSC(4)-09-12 papur 1 Helen Hortop, Pennaeth y Gwasanaeth Aelodau Artiffisial a Chyfarpar, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro Fiona Jenkins, Cyfarwyddwr Gweithredol y Gwyddorau Therapïau ac Iechyd, Bwrdd Iechyd
Prifysgol Caerdydd a’r Fro Andrew Lloyd, Pennaeth Ansawdd a TG, Y Gwasanaeth Aelodau Artiffisial a Chyfarpar, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro HSC(4)-09-12 papur 2 Dr Maire Doran, Gwasanaeth Aelodau Artiffisial a Chyfarpar Gogledd Cymru Gareth Evans, Cyfarwyddwr Clinigol Perfformiad a
Gwella, Canllawiau Ymarfer Clinigol Therapïau a Chymorth Clinigol, Bwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor ynghylch gwasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru. 2.2 Cytunodd Dr Doran i ddarparu’r wybodaeth ychwanegol a ganlyn ar gais y Pwyllgor: ·
Diffiniad o
‘atgyweirio’ (fel y cyfeiriwyd ato yn ystod y drafodaeth
ynghylch llwyddiant yr atgyweiriwr cymeradwy o ran cyrraedd targedau); ·
Ei
barn ynghylch y llwybr ar gyfer datblygu
gwasanaethau yng ngogledd Cymru dros y 12 mis nesaf; ·
Copi o’r llythyr dyrannu
a gafwyd gan Lywodraeth Cymru ar ôl gwrthod
cais gwasanaeth gogledd Cymru am adnoddau i gefnogi gwasanaethau i oedolion. 2.3
Cytunodd Mr Lloyd i ddarparu
copi drafft o’r broses gyfeirio newydd sy’n cael
ei datblygu gan Wasanaeth Aelodau Artiffisial
a Chyfarpar de Cymru. 2.4 Cytunodd
y tystion i gyflwyno eu barn ynghylch y tri maes allweddol
lle mae angen
cynnydd pellach mewn gwasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru. |
|
(14.15 - 15.00) |
Safbwynt y cynllunydd HSC(4)-09-12 papur 3 Dr Cerilan Rogers, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Arbenigol a
Thrydyddol, Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru Mr Daniel Phillips, Cadeirydd, Bwrdd Partneriaeth Gwasanaeth Symudedd ac Ystum Corff Cymru Gyfan Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.5 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor ynghylch gwasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru. 2.6 Cytunodd Dr Rogers i ddarparu gwybodaeth bellach er mwyn egluro’r
amserlen o ran cynllunio a darparu manyleb gwasanaethau o safbwynt Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru / Bwrdd Partneriaeth
Gwasanaeth Symudedd ac Ystum Corff
Cymru Gyfan. |
|
(15.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 4 Cofnodion: |
|
(15.00 - 15.30) |
Ymchwiliad undydd i wasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru - trafod y dystiolaeth Cofnodion: |
|
Trawsgrifiad |