Agenda a Chofnodion
Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad - Dydd Mercher, 8 Chwefror 2012 09.15
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Cyswllt: Llinos Dafydd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Kirsty Williams. Nid oedd dirprwyon. |
||
(09.15 - 09.35) |
Ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru - Trafod y prif faterion Cofnodion: 2.1 Bu’r Pwyllgor yn ystyried y prif faterion yn ei ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru. |
|
(09.35 - 09.45) |
Blaenraglen waith - Trafodaeth bellach ynghylch sesiynau tystiolaeth un-tro HSC(4)-05-12 papur 1 Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod ei flaenraglen waith. Yn dilyn ei seminar anffurfiol ar fynediad at feddyginiaethau, cytunodd y Pwyllgor y byddai’n cynnal ymchwiliad byr i fynediad at driniaethau yng Nghymru. 3.2 Cytunodd y Pwyllgor na fyddai’n trefnu pedwerydd sesiwn dystiolaeth un-tro, a hynny er mwyn caniatáu digon o hyblygrwydd yn y flaenraglen waith fel y gall y Pwyllgor ymateb i faterion a allai godi. 3.3 Cytunodd y Pwyllgor i ystyried ei flaenraglen waith eto cyn toriad y Pasg. |
|
(09.45 - 10.30) |
Ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hyn - trafodaeth â Jean-Pierre Girard mewn perthynas â thystiolaeth ysgrifenedig a gomisiynwyd gan Gydweithredwyr Cynyddol Cymru HSC(4)-05-12 papur 2a – ymateb ymgymghoriad HSC(4)-05-12 papur 2b – gwybodaeth ychwanegol Jean-Pierre Girard, arbennigwr ar ddatblygiad a rheolaeth sefydliadau cydweithredol, di-elw a cilyddol (enwebwyd gan Gydweithredwyr Cynyddol Cymru) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1Ymatebodd Jean-Pierre Girard i gwestiynau gan y Pwyllgor ar fodel cydweithredol gofal yn y cartref i bobl hŷn yn Québec. |
|
Papurau i'w nodi Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Ionawr HSC(4)-03-12 cofnodion Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Ionawr. |
||
Trawsgrifiad |