Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(09.15 - 09.30)

1.

Y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru): trafodaeth ar drefn ystyried trafodion Cyfnod 2

Sylwch: Ni fydd trafodion Cyfnod 2 y Bil hwn yn mynd rhagddynt os na chytunir ar yr Egwyddorion Cyffredinol ar 14 Gorffennaf 2015.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1 Cytunodd y Pwyllgor ar drefn ystyried trafodion Cyfnod 2 y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) mewn egwyddor.

 

(09.30)

2.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

2.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Darren Millar.

 

(09.30 - 10.30)

3.

Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): sesiwn dystiolaeth 2

Yr Athro Mark Bellis, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Dr Julie Bishop, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Dr Quentin Sandifer, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan yr Athro Mark Bellis.

3.2 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan yr Aelodau.

3.3 Cytunodd y tystion i ddarparu nodyn ar yr eitemau a ganlyn i'r Pwyllgor:

·         y cydweithio rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru, Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru er mwyn annog gweithgarwch corfforol i wella iechyd pobl leol;

·         eu barn ar p'un a ddylid cynnig cymhelliant ariannol er mwyn helpu awdurdodau lleol i ddarparu toiledau cyhoeddus;

·         eu barn ar gyflwyno cyfyngiad oedran gofynnol ar gyfer tyllu rhannau o'r corff;

·         unrhyw fesurau rheoli tybaco ychwanegol y dylid ystyried eu cynnwys yn y Bil; ac 

·         unrhyw dystiolaeth sy'n dangos effaith anweddau gweddilliol ac anweddau trydydd-law o e-sigaréts.

 

 

(10.50 - 11.50)

4.

Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): sesiwn dystiolaeth 3

Dr Gill Richardson, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Sara Hayes, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan yr Aelodau.

 

(11.50)

5.

Papurau i’w nodi

5.1

Cofnodion y cyfarfodydd ar 17 a 25 Mehefin 2015

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1a Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 17 a 25 Mehefin 2015.

 

(11.50)

6.

Cynnig o dan Reolau Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

6.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.50 - 12.05)

7.

Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(12.05 - 12.30)

8.

Blaenraglen waith y Pwyllgor.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr amlinelliad o'r flaenraglen waith ar gyfer mis Medi i fis Hydref 2015, a chytunodd i ddychwelyd at yr eitem hon yn y dyfodol.

8.2 Yn sgil sylw'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ei fod yn bwriadu cynnig penderfyniad ariannol ar gyfer y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) yn nechrau tymor yr hydref, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am estyniad i'r dyddiad cau ar gyfer cwblhau trafodion Cyfnod 2.

8.3 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith ar gyfer mis Tachwedd 2015 i fis Mawrth 2016, a chytunodd i ddychwelyd at yr eitem hon yn y dyfodol.