Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Elin Jones, Darren Millar a Lynne Neagle. Dirprwyodd Mike Hedges ar ran Lynne Neagle.

 

(09.30 - 11.30)

2.

Y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru): trafod yr adroddiad drafft;

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft, a'i dderbyn, yn amodol ar fân newidiadau.

 

(11.30 - 12.00)

3.

Ymchwiliad i gamddefnyddio alcohol a sylweddau: trafod y prif faterion.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Fe wnaeth y Pwyllgor drafod y materion allweddol sydd wedi codi yn ystod ymchwiliad y Pwyllgor i gamddefnyddio alcohol a sylweddau, a chytunwyd arnynt. 

 

(12.00 - 12.30)

4.

Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): trafod y dull gweithredu ar gyfer gwaith craffu Cyfnod 1.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull gweithredu o ran craffu ar y Bil yng Nghyfnod 1, a chytunwyd arno.