Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(10.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Lynne Neagle a Kirsty Williams. Dirprwyodd Mike Hedges ar ran Lynne Neagle.

 

(10.00 - 11.15)

2.

Y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru): sesiwn dystiolaeth 17

Mark Drakeford AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

David Pritchard, Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu’r Gweithlu

Kate Johnson, Cyfreithiwr

Mari Williams, Cyfreithiwr

 

Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru)

 

Memorandwm Esboniadol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu'r Gweinidog yn ateb cwestiynau gan Aelodau.

2.2 Cytunodd y Gweinidog:

  • i ddarparu nodyn ar lwybrau gwneud yn iawn neu lwybrau apêl i ddefnyddwyr gwasanaethau mewn perthynas ag asesiadau cymhwysedd;
  • i ddarparu nodyn ar yr ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ar gontractau dim oriau, gan nodi sut y gellir mynd i'r afael â'r defnydd o gontractau dim oriau yn y sector gofal cymdeithasol drwy'r Bil; ac
  • i ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol Cymru er mwyn canfod dichonoldeb cyflwyno darpariaethau priodol yn y Bil i ddiogelu unigolion sy'n dymuno chwythu'r chwiban ar arferion gwael a all roi unigolion eraill mewn perygl. 

 

(11.15)

3.

Papurau i’w nodi

3.1

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Mai 2015.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1a Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Mai 2015.

 

3.2

Y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru): gwybodaeth ychwanegol

Gwybodaeth ychwanegol gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru

Gwybodaeth ychwanegol gan Age Cymru

Gwybodaeth ychwanegol gan Cynghrair Henoed Cymru

Gwybodaeth ychwanegol gan Cymdeithas Brydeinig Mabwysiadu a Maethu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol a gafwyd gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, Age Cymru, Cynghrair Henoed Cymru, a'r Gymdeithas Brydeinig dros Fabwysiadu a Maethu. Nodwyd hefyd fod gwybodaeth ychwanegol wedi dod i law gan y Rhwydwaith Maethu a chan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei hanfon at yr Aelodau a'i chyhoeddi ar y dudalen we ar gyfer y Bil.

 

3.3

Ymchwiliad i’r gweithlu Meddygon Teulu yng Nghymru: gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.3a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.

 

(11.15)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.15 - 11.30)

5.

Y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru): trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.