Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(09.00)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

1.2 Dirprwyodd Peter Black ar ran Kirsty Williams AC ar gyfer yr eitemau'n ymwneud â'r Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru).

 

(09.00 - 09.50)

2.

Y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): sesiwn dystiolaeth 2

Tina Donnelly, Y Coleg Nyrsio Brenhinol

Lisa Turnbull, Y Coleg Nyrsio Brenhinol

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan yr Aelodau.

 

(09.50 - 10.40)

3.

Y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): sesiwn dystiolaeth 3

Cynrychiolwyr Cyfarwyddwyr Nyrsio Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd GIG Cymru:

 

Rory Farrelly, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Ruth Walker, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan yr Aelodau.

3.2 Cytunodd Rory Farrelly i ddarparu gwybodaeth ychwanegol i'r Pwyllgor ynghylch cynllun recriwtio diweddar  Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i lenwi'r 140 swyddi nyrsio gwag yn y Bwrdd Iechyd. Cytunodd Rory Farrelly hefyd i egluro'r dyddiadau cau perthnasol ar gyfer ceisiadau a nifer y ceisiadau a ddaeth i law.

 

(10.50 - 11.40)

4.

Y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): sesiwn dystiolaeth 4

Dr Phil Banfield, BMA Cymru

Dr Victoria Wheatley, BMA Cymru

Dr Rhid Dowdle, Coleg Brenhinol y Ffisigwyr (Cymru)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan yr Aelodau.

 

(11.40 - 12.25)

5.

Y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): sesiwn dystiolaeth 5

Dr Sally Gosling, Cymdeithas Siartredig y Ffisiotherapyddion

Philippa Ford, Cymdeithas Siartredig y Ffisiotherapyddion

Dr Alison Stroud, Coleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan yr Aelodau.

 

(12.25)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 8

Cofnodion:

6.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(12.25 - 12.40)

7.

Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): ystyried y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

7.2 Mae'r Pwyllgor wedi cytuno i ofyn am wybodaeth ychwanegol am y trefniadau sydd ar waith yn yr Alban i sicrhau lefelau diogel staff nyrsio heb ddeddfwriaeth.

 

(12.40 - 12.45)

8.

Y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru): paratoi ar gyfer gwaith craffu

Cofnodion:

8.1 Nododd y Pwyllgor benderfyniad y Pwyllgor Busnes mewn egwyddor i gyfeirio'r Bil at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer gwaith craffu Cyfnod 1 a Chyfnod 2 a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ddweud nad oedd unrhyw bryderon sylweddol ynghylch yr amserlen arfaethedig.

8.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at randdeiliaid i ddweud bod y Bil yn cael ei gyflwyno.

 

(13.30 - 14.15)

9.

Ymchwiliad i'r gweithlu Meddygon Teulu yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 1

Dr Charlotte Jones, BMA Cymru

Dr Phil White, BMA Cymru

Dr Peter Horvath-Howard, BMA Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan yr Aelodau.

 

(14.15 - 15.00)

10.

Ymchwiliad i'r gweithlu Meddygon Teulu yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 2

Dr Paul Myres, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol

Dr Rebecca Payne, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

10.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan yr Aelodau.

 

(15.15 - 16.00)

11.

Ymchwiliad i'r gweithlu Meddygon Teulu yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 3

Ms Mary Beech, Deoniaeth Cymru

Dr Martin Sullivan, Deoniaeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

11.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan yr Aelodau.

11.2 Cytunodd y tystion i ddarparu gwybodaeth ychwanegol i’r Pwyllgor ynghylch:

·                     amlinelliad o'r costau'n gysylltiedig â chodi'r targed ar gyfer nifer y lleoedd ar gyrsiau hyfforddi meddygon teulu o 136 i o leiaf 200 (fel yr argymhellir gan y Gymdeithas Feddygol Brydeinig) neu i nifer y teimlent y byddai'n realistig; a

·                     dadansoddiad o'r ardaloedd a lleoliadau yng Nghymru lle nad yw lleoedd hyfforddi wedi'u llenwi dros y 3 blynedd diwethaf.

 

(16.00)

12.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

12.0a  Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 31 Ionawr.

 

12.1

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Arloesi Meddygol: gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

12.1a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.

 

12.2

Gohebiaeth gan y Pwyllgor Deisebau: P-04-600 Deiseb i achub y gwasanaeth meddygon teulu yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

12.2a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.

 

(16.00)

13.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o eitem 1 yn y cyfarfod ar 4 Chwefror 2015

Cofnodion:

13.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(16.00 - 16.15)

14.

Ymchwiliad i'r gweithlu Meddygon Teulu yng Nghymru: ystyried y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

14.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.