Agenda a Chofnodion
Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad - Dydd Mercher, 4 Chwefror 2015 09.15
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
(09.15 - 09.30) |
Ymgynghoriad ar drefniadau gofal a chymorth yn y dyfodol ar gyfer pobl sy’n cael arian o’r Gronfa Byw’n Annibynnol: ystyried y llythyr drafft. Cofnodion: 1.1 Trafododd y Pwyllgor y
llythyr drafft at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a chytunwyd ar
y llythyr hwnnw, yn amodol ar fân newidiadau. |
|
(09.30) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 2.1 Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. |
|
(09.30 - 10.20) |
Ymchwiliad i gamddefnyddio alcohol a sylweddau: sesiwn dystiolaeth 1 Andrew Misell, Alcohol Concern Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Ymatebodd y tystion i
gwestiynau gan yr Aelodau. |
|
(10.30 - 11.20) |
Ymchwiliad i gamddefnyddio alcohol a sylweddau: sesiwn dystiolaeth 2 Dr Raman Sakhuja, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion Cofnodion: 4.1 Ymatebodd y tystion i
gwestiynau gan Aelodau. 4.2 Cytunodd y tyst i ddarparu
gwybodaeth ychwanegol i’r Pwyllgor am ystadegau ar gyfraddau llwyddiant (o ran
nifer y cleifion sy’n cael eu hailsefydlu) triniaethau a nodwyd yn ystod y sesiwn
(fel triniaeth dadwenwyno i gleifion mewnol). |
|
(11.20 - 12.10) |
Ymchwiliad i gamddefnyddio alcohol a sylweddau: sesiwn dystiolaeth 3 Harry Shapiro, Drugscope Nathan David, Drugaid Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Ymatebodd y tystion i
gwestiynau gan Aelodau. |
|
(12.10) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.0a Nododd y Pwyllgor gofnodion
y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Ionawr 2015. |
|
(12.10) |
Ymchwiliad i gamddefnyddio alcohol a sylweddau: Nodyn o’r digwyddiad grŵp cyfeirio a gynhaliwyd ar 21 Ionawr 2015 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1a Nododd y Pwyllgor y nodyn
o’r digwyddiad grŵp cyfeirio a gynhaliwyd ar 21 Ionawr 2015.
|
|
(12.10) |
Ymchwiliad i gamddefnyddio alcohol a sylweddau: crynodeb o’r ymatebion i’r arolwg Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.2a Nododd y Pwyllgor y
crynodeb o’r ymatebion i’r arolwg. |
|
(12.10) |
Ymchwiliad i gamddefnyddio alcohol a sylweddau: ymatebion i’r ymgynghoriad Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.3a Nododd y Pwyllgor yr
ymatebion i’r ymgynghoriad. |
|
(12.10) |
Ymgynghoriad ar drefniadau gofal a chymorth yn y dyfodol ar gyfer pobl sy’n cael arian o’r Gronfa Byw’n Annibynnol: gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.4a Nododd y Pwyllgor y
wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru. |
|
(12.10) |
Y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): gohebiaeth gan y Pwyllgor Cyllid Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.5a Nododd y Pwyllgor yr
ohebiaeth. |
|
(12.10) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 7.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(12.10 - 12.25) |
Ymchwiliad i gamddefnyddio alcohol a sylweddau: trafod y dystiolaeth Cofnodion: 8.1 Trafododd y Pwyllgor y
dystiolaeth a ddaeth i law. 8.2 Cytunodd y Pwyllgor i
ysgrifennu at brifysgolion yng Nghymru i geisio rhagor o wybodaeth am:
|
|
(12.25 - 12.30) |
Dadl ar Raglen Waith y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer 2015 Cofnodion: 9.1 Trafododd y Pwyllgor
Raglen Waith y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer 2015. 9.2 Cytunodd y Pwyllgor i ofyn
am ragor o wybodaeth gan y Swyddfa Ewropeaidd mewn perthynas â threfniadau ar gyfer rhannu adroddiadau’r
Pwyllgor gyda sefydliadau Ewropeaidd. |