Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(09.45 - 10.15)

1.

Blaenraglen waith y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1 Bu'r Aelodau'n trafod y flaenraglen waith, gan gytuno y byddent yn dod yn ôl at yr eitem hon ar ddyddiad arall.

 

(10.15)

2.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

2.1 Cafwyd ymddiheuriad gan Darren Millar.

 

(10.15 - 11.15)

3.

Gweithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014: sesiwn friffio ffeithiol gan swyddogion Llywodraeth Cymru

Margaret Provis, Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran Strategaeth a Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol 

Alistair Davey, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Cyflawni Polisïau ar gyfer Plant ac Oedolion

Anthony Jordan, Pennaeth Gweithredu Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy

Mike Lubienski, Uwch Gyfreithiwr, Tîm Gofal Cymdeithasol

 

Dogfennau ategol

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Ymgynghoriad ar y rheoliadau a’r cod ymarfer mewn perthynas â rhan 2 y Ddeddf.

Ymgynghoriad ar y rheoliadau a’r cod ymarfer mewn perthynas â rhan 3 (Asesu) a rhan 4 (Diwallu Anghenion)

Ymgynghoriad ar y rheoliadau a’r canllawiau statudol mewn perthynas â rhan 7 y Ddeddf

Ymgynghoriad ar y rheoliadau a’r cod ymarfer mewn perthynas â rhan 11 y Ddeddf

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Atebodd y swyddogion gwestiynau gan Aelodau.

3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i nodi ei fwriad i ystyried gosod y rheoliadau drafft o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mewn perthynas â chymhwystra.

 

(11.30 - 12.30)

4.

Gwaith craffu ar ôl deddfu ar Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010: Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog

Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Dr Sarah Watkins, Is-adran Grwpiau Iechyd Meddwl ac Agored i Niwed / Uwch Swyddog Meddygol

Andrea Gray, Rheolwr Deddfwriaeth Iechyd Meddwl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Atebodd y Gweinidog gwestiynau gan Aelodau.

 

(12.30)

5.

Papurau i’w nodi

5.1

Craffu ar waith y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: gwybodaeth ychwanegol gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch cynllun recriwtio Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

 

5.2

Sesiwn graffu gyffredinol gyda'r Prif Swyddog Meddygol: gwybodaeth ychwanegol gan y Prif Swyddog Meddygol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.2a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan y Prif Swyddog Meddygol ynghylch y Cynllun Gofal Sylfaenol.

 

5.3

Ymchwiliad i broses gwynion y GIG: gwybodaeth ychwanegol gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.3a Nododd y Pwyllgor ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch ymchwiliad y Pwyllgor i broses gwynion y GIG.

 

5.4

Blaenraglen waith y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.4a Nododd y Pwyllgor raglen waith amlinellol y Pwyllgor o fis Ionawr tan fis Mawrth 2015.

 

(12.30)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

6.1 Derbyniwyd y cynnig.

6.2 Cynigiodd y Cadeirydd hefyd i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitem 1 o'r cyfarfod ar 26 Tachwedd 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(ix). Cytunwyd ar hyn.

 

(12.30 - 12.45)

7.

Gwaith craffu ar ôl deddfu ar Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010: trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.