Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
(09.00 - 09.45) |
Blaenraglen waith y Pwyllgor Dogfennau ategol: Cofnodion: 1.1 Bu’r
Aelodau’n trafod y flaenraglen waith, gan gytuno y byddent yn dod yn ôl at yr
eitem hon ar ddyddiad arall. |
|
(09.45) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 2.1 Ni
chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
(09.45 - 10.45) |
Sesiwn graffu gyffredinol ar waith Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Bu’r
Comisiynydd yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor. 3.2
Cytunodd y Comisiynydd i ddarparu nodyn i’r Pwyllgor yn amlinellu’r pwyntiau
sydd fwyaf perthnasol i’r Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gwasanaethau Cymdeithasol
(Cymru) sydd ar ddod, sy’n deillio o’i hadolygiad o ansawdd bywyd a gofal i
bobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal yng Nghymru. |
|
(11.00 - 12.00) |
Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon"): sesiwn dystiolaeth 7 Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol Tracey Breheny, Dirprwy
Gyfarwyddwr Camddefnyddio Sylweddau, Is-adran Busnes y Llywodraeth a Busnes
Corfforaethol Dr Sarah Watkins, Is-adran Grwpiau Iechyd Meddwl ac
Agored i Niwed/ Uwch Swyddog Meddygol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1
Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau. 4.2
Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn i’r Pwyllgor yn nodi’r amcangyfrif o
gostau i GIG Cymru o’r carchar arfaethedig yng Ngogledd Cymru. |
|
(12.00) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.0a Nododd
y Pwyllgor gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 6 Tachwedd a 12 Tachwedd
2013. |
|
Craffu ar waith y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd: gohebiaeth gan y Prif Weinidog Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1a Nododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Prif Weinidog. |
||
Sesiwn graffu gyffredinol gyda’r Prif Swyddog Meddygol: gwybodaeth ychwanegol gan y Prif Swyddog Meddygol Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.2a Nododd
y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan y Prif Swyddog Meddygol. |
||
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2015-16: gohebiaeth gan y Pwyllgor Cyllid Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.3a Nododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Pwyllgor Cyllid a chytunodd i drafod y llythyr yn
fanylach yn ei gyfarfod nesaf ar 10 Rhagfyr. |
||
Ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru: gwybodaeth ychwanegol gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.4a Nododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. |
||
(12.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 6.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(12.00 - 12.15) |
Sesiwn graffu gyffredinol ar waith Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru: ystyried y dystiolaeth a gafwyd. Cofnodion: 7.1
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(12.15 - 12.30) |
Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd (“cyffuriau penfeddwol cyfreithlon”): ystyried y dystiolaeth a gafwyd Cofnodion: 8.1
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |