Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
(09.30) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Darren Millar. Dirprwyodd Mohammad Asghar
ar ei ran. |
|
(09.30 - 10.15) |
Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon"): Sesiwn dystiolaeth 5 Ditectif
Brif Arolygydd Gary Phillips, TARIAN, Uned Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol
De Cymru Ditectif
Arolygydd Richie Jones, Ffederasiwn yr Heddlu ar gyfer Cymru a Lloegr Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1
Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau. 2.2
Cytunodd y tystion i ddarparu gwybodaeth ychwanegol i’r Pwyllgor ynghylch: ·
camau sy'n
cael eu cymryd gan heddluoedd ledled Cymru i atal y defnydd o sylweddau
seicoweithredol newydd; ·
camau sy'n
cael eu cymryd gan y gwasanaethau cyhoeddus perthnasol i gydweithio a
chydgysylltu gwasanaethau cymorth i unigolion sydd am roi'r gorau i gymryd
sylweddau seicoweithredol newydd; a ·
braslun o
unrhyw fylchau o ran y gwasanaethau cymorth sylweddau seicoweithredol a
ddarperir gan Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol. |
|
(10.15 - 11.00) |
Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon"): Sesiwn dystiolaeth 6 Paul
Roberts, Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Ymatebodd y
tystion i gwestiynau gan yr Aelodau. |
|
(11.00) |
Papurau i’w nodi |
|
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16: gwybodaeth ddilynol yn dilyn 16 Hydref 2014 Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1a Nododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol ynghylch Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16. |
||
(11.00) |
Cynnig o dan Reolau Sefydlog 17.42(ix) a (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac ar gyfer eitem 1 y cyfarfod ar 20 Tachwedd 2014 Cofnodion: 5.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(11.00 - 11.15) |
Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon"): Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 6.1
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd ar gyfer yr ymchwiliad. |
|
(11.15 - 11.30) |
Ymchwiliad i gamddefnyddio alcohol a sylweddau: trefniadau ymgynghori Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1
Trafododd y Pwyllgor y trefniadau ar gyfer ymgynghoriad yr ymchwiliad i
gamddefnyddio alcohol a sylweddau, gan gytuno arnynt. |
|
(11.30 - 12.15) |
Ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: trafod yr adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1
Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar ei ymchwiliad, yn amodol ar fân
newidiadau, ar gyfer ei ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng
Nghymru. |