Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
(09.30) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Kirsty Williams. |
|
(09.30) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfodydd a
gynhaliwyd ar 18 Tachwedd a 24 Medi. |
|
(09.30 - 10.30) |
Sesiwn friffio ffeithiol ar y Papur Gwyn ar Iechyd y Cyhoedd Dr. Ruth
Hussey, Prif Swyddog Meddygol Chris
Tudor-Smith, Uwch-swyddog Cyfrifol Tracey
Breheny, Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi Camddefnyddio Sylweddau, Busnes y
Llywodraeth a Chorfforaethol Sue
Bowker, Pennaeth Cangen Polisi Tybaco Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Cafodd yr
Aelodau sesiwn friffio ffeithiol gan Lywodraeth Cymru ar y Papur Gwyn ar Iechyd
y Cyhoedd. 3.2
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Prif Swyddog Meddygol i ofyn am wybodaeth
am nifer y plant a phobl ifanc sy'n defnyddio sigaréts electronig a chynhyrchion
tybaco traddodiadol. 3.3
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol i ofyn am eglurhad ynghylch a oes gan y Cynulliad gymhwysedd
deddfwriaethol o ran isafswm prisio uned, yn ei farn ef, ac am unrhyw
drafodaethau y mae'r Gweinidog neu ei swyddogion wedi'u cael gyda Llywodraeth y
DU ar y mater hwn. |
|
(10.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o eitem 1 y cyfarfod ar 16 Hydref 2014 Cofnodion: 4.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10.30 - 11.15) |
Gwaith craffu ar ôl deddfu ar Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010: Trafod y dystiolaeth ysgrifenedig Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth ysgrifenedig. |
|
(11.15 - 11.30) |
Trafod yr adroddiadau cynnydd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Dogfennau ategol:
|
|
Adroddiad cynnydd ar: atal thrombo-emboledd gwythiennol ymhlith cleifion mewn ysbytai yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.1a Nododd
y Pwyllgor yr adroddiad cynnydd o ran gweithredu ar argymhellion y Pwyllgor. |
||
Adroddiad cynnydd ar: marw-enedigaethau yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.2a Nododd
y Pwyllgor yr adroddiad a chytunodd i ysgrifennu at randdeiliaid perthnasol yn
gofyn am eu barn am yr adroddiad. |
||
Adroddiad cynnydd ar: gweithredu'r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer diabetes yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.3a Nododd
y Pwyllgor yr adroddiad a chytunodd i ohirio gwneud penderfyniad ar ymgymryd â
gwaith dilynol tan ar ôl cyhoeddi'r adroddiad blynyddol ar y Cynllun Cyflawni
ar gyfer Diabetes ar ddiwedd 2014. |