Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(09.15)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd Aelodau’r Pwyllgor, y Gweinidog a’i swyddogion a’r cyhoedd i’r cyfarfod.

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Kirsty Williams.

 

(09.15 - 10.15)

2.

Ymchwiliad i wasanaethau orthodontig yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 3

Mark Drakeford AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dr Sandra Sandham, Cadeirydd y Grwp Ymgynhorol Strategol Orthodonteg

David Thomas, Prif Swyddog Deintyddol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu’r Gweinidog yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

2.2 Cytunodd y Gweinidog i ofyn i’r Athro Stephen Richmond ystyried yr angen am isafswm oedran ar gyfer atgyfeirio at wasanaethau orthodontig, ar wahân i’r 2% o blant a ddyfynnwyd gan y Prif Swyddog Deintyddol fel rhai sydd wedi’u nodi i fod ag angen am atgyfeirio cynnar.

 

(10.15)

3.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfodydd blaenorol.

 

(10.20)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 5 ac o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) ar gyfer eitem 6

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.35 - 11.35)

5.

Ymchwiliad i’r mynediad at dechnolegau meddygol - ystyried y materion allweddol

Cofnodion:

5.1. Bu’r Pwyllgor yn trafod y materion allweddol sy’n codi o’r ymchwiliad.

5.2 Nododd y Pwyllgor ei farn bod angen ymchwilio ymhellach i fynediad at dechnolegau meddygol o fewn gofal sylfaenol a gofal cymdeithasol cyn cwblhau’r ymchwiliad hwn. Cytunodd y Pwyllgor i wahodd cynrychiolwyr o Gymdeithas Feddygol Prydain, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol, Byrddau Iechyd Lleol ac Awdurdodau Lleol, ac unrhyw sefydliadau perthnasol eraill, i ystyried y materion hyn ymhellach.

 

(11.35 - 12.05)

6.

Ystyried blaenraglen waith y Pwyllgor ar gyfer tymor yr hydref 2014

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor:

·         I gynnal ymchwiliad i gyffuriau penfeddwol cyfreithlon yn nhymor yr hydref. Bydd y Pwyllgor yn ystyried ei ddulliau mewn perthynas â’r ymchwiliad maes o law;

·         i wahodd y Comisiynydd Pobl Hŷn i roi tystiolaeth yn ystod tymor yr hydref, yn arbennig i drafod ei hadolygiad o ofal preswyl a’i hadroddiad blynyddol;

·         i wahodd y Prif Swyddog Meddygol i ddod i sesiwn graffu gyffredinol yn nhymor yr hydref fel rhan o raglen y Pwyllgor o graffu ar Brif Weithwyr Iechyd Proffesiynol Cymru;

·         i wahodd swyddogion y Llywodraeth i roi briff ffeithiol yn nhymor yr hydref ar y rheoliadau sy’n deillio o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, unwaith y bydd rheoliadau drafft yn cael eu cyhoeddi;

·         i godi, ymhlith pethau eraill, y materion a ganlyn gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod y sesiwn graffu gyffredinol a drefnwyd ar gyfer 16 Gorffennaf:

o   adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar reoli cyflyrau cronig;

o   recriwtio, cadw a hyfforddi meddygon teulu;

o   adroddiadau diweddar ar amseroedd aros ar gyfer llawdriniaeth ar y galon;

·         ystyried materion ynghylch proses gwyno GIG Cymru, i’w lywio’n benodol gan yr adroddiad ar yr Adolygiad o Ymdrin â Phryderon a Chwynion yn GIG Cymru, o dan arweiniad Keith Evans, unwaith y bydd yr adroddiad ar gael.