Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley  Helen Finlayson

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

(09.15)

2.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Eitem 3.

Cofnodion:

2.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(09.20 - 09.45)

3.

Ystyried blaenraglen waith y Pwyllgor ar gyfer tymor yr hydref 2014

Cofnodion:

3.1 Cytunodd y Pwyllgor i ystyried cwmpas ymchwiliadau posibl i sylweddau penfeddwol cyfreithlon, caethiwed i feddyginiaethau ar bresgripsiwn a fflworideiddio dŵr.

 

3.2 Cytunodd y Pwyllgor ar y dull gweithredu o ran craffu ar ôl deddfu mewn perthynas â Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.

 

3.3 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith ar gyfer tymor yr hydref 2014.

 

3.4 Cytunodd y Pwyllgor ar y dull gweithredu o ran craffu ar ôl deddfu mewn perthynas â Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.

 

3.5 Yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(ii), pleidleisiodd y Pwyllgor ar y cynnig a ganlyn, a gynigiwyd gan Elin Jones AC, ac a dderbyniwyd gan y Cadeirydd heb rybudd yn unol â Rheol Sefydlog 17.44:

 

Bod y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gwahodd y Gwir Anrhydeddus Ann Clwyd AS i un o gyfarfodydd y Pwyllgor i roi tystiolaeth, er mwyn i'r Pwyllgor graffu ar y materion, y themâu a'r casgliadau ynghylch gwasanaethau GIG Cymru a ddaw i'r amlwg fel rhan o'i gwaith i Lywodraeth y DU ar gwynion am y GIG yn Lloegr.

 

3.5 Dyma ganlyniad y bleidlais:

 

O blaid

Yn erbyn

Ymatal

Elin Jones

Darren Millar

Janet Finch-Saunders

Lindsay Whittle

Kirsty Williams

Leighton Andrews

Rebecca Evans

Lynne Neagle

Gwyn Price

David Rees

0

5

5

0

Gan fod y bleidlais yn gyfartal, defnyddiodd y Cadeirydd ei bleidlais fwrw yn negyddol, yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii). Felly, gwrthodwyd y cynnig.

 

 

(09.45 - 10.30)

4.

Ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 15

Pwyllgor Cynghorol Gwyddonol Cymru

·         Yr Athro Huw Griffiths

·         Yr Athro John Watkins

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

(10.45 - 11.45)

5.

Ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 16

Mark Drakeford AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Ifan Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr, Arloesi Gofal Iechyd

Christine Morrell, Prif Ymgynghorydd Gwyddonol (Iechyd) Dros Dro

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Holodd y Pwyllgor y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru.

 

(13.15 - 14.15)

6.

Ymchwiliad i wasanaethau orthodontig yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 1

Cymdeithas Ddeintyddol Prydain yng Nghymru

·         Stuart Geddes, Cyfarwyddwr Cymdeithas Ddeintyddol Prydain yng Nghymru

 

Cymdeithas Orthodontig Prydain

·         Peter Nicholson, Orthodontydd Ymgynghorol, Ysbyty Brenhinol Morgannwg

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

6.2 Cytunodd Peter Nicholson i ddarparu rhagor o wybodaeth i'r Pwyllgor am nifer y bobl a gaiff eu hatgyfeirio flwyddyn yn gynnar a blwyddyn yn hwyr at wasanaethau orthodontig arbenigol, a rhagor o dystiolaeth i ategu'r sylwadau a wnaed mewn perthynas â chynnydd yn nifer y darparwyr mawr corfforaethol sy'n cynnig gwasanaethau orthodontig arbenigol.

 

(14.15 - 15.15)

7.

Ymchwiliad i wasanaethau orthodontig yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 2

Cynrychiolwyr Byrddau Iechyd Lleol

·         Karl Bishop, Cyfarwyddwr Meddygol Cyswllt (Deintyddiaeth), Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

·         Yr Athro Stephen Richmond, Athro mewn Orthodonteg, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro

·         Bryan Beardsworth, Arweinydd Gwasanaethau Deintyddol, Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda

·         Warren Tolley, Cynghorydd Deintyddol Gofal Sylfaenol, Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1     Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

7.2 Cytunodd Warren Tolley i ddarparu data i'r Pwyllgor ar y cyfraddau o ran triniaethau orthodontig arbenigol nad cynhaliwyd a'r effeithiau yn sgîl hynny.

 

7.3     Cytunodd Karl Bishop i ddarparu gwybodaeth i'r Pwyllgor ynglŷn â'r canlynol:

·         Nifer yr apwyntiadau yn yr ysbyty am wasanaethau orthodontig arbenigol a gollwyd;

·         Y trefniadau sydd ar waith o ran darparu gwasanaethau orthodontig arbenigol i unigolion a atgyfeiriwyd yn wreiddiol i gael eu hasesu a'u trin yn ardal bwrdd lleol arall.

8.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Nododd y Pwyllgor y wybodaeth gan y Bwrdd Arferion Gorau ac Arloesi ym maes Iechyd a Lles.