Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd C - Tŷ Hywel
Cyswllt: Llinos Madeley
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Ni
chafwyd ymddiheuriadau. |
||
(09.15 - 10.00) |
Ymchwiliad i argaeledd gwasanaethau bariatrig: ystyried yr adroddiad drafft Cofnodion: 2.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod yr adroddiad drafft ar yr ymchwiliad i
argaeledd gwasanaethau bariatrig. Cytunwyd yr adroddiad yn amodol ar fân
newidiadau. |
|
(10.00 - 10.30) |
Ystyried blaenraglen waith y Pwyllgor ar gyfer tymor yr hydref 2014 Cofnodion: 3.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith ar gyfer tymor yr hydref
2014 a gofynnodd am bapurau cwmpasu ar ddetholiad o bynciau i'w hystyried mewn
cyfarfod yn y dyfodol. 3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ohirio'r sesiwn dystiolaeth lafar ar ei
ymchwiliad dilynol i'r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i
wasanaethau iechyd gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol tan
dymor yr hydref; ni chytunwyd ar ddyddiad eto. |
|
(10.45 - 12.15) |
Rhaglen Datblygiad Proffesiynol: Gwaith Craffu Ariannol Cofnodion: 4.1 Fe wnaeth yr Aelodau gymryd
rhan mewn sesiwn ar graffu ariannol yn ystod y flwyddyn ac ar ddiwedd y
flwyddyn, fel rhan o'r Rhaglen Datblygiad Proffesiynol. |
|
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1 Nododd y
Pwyllgor gofnodion y cyfarfod blaenorol. |