Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1.
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
||
(09:20 - 09:30) |
Trafod ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i lythyr y Pwyllgor ynghylch yr ymchwiliad dilynol i leihau'r risg o strôc Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1. Nododd y Pwyllgor ymateb y
Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'w lythyr. 2.2. Cytunodd aelodau'r Pwyllgor y
dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at y Gweinidog ynghylch y materion canlynol:
|
|
(09:30 - 10:20) |
Ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 12 Ymddiriedolaeth GIG Felindre Yr Athro Peter Barrett-Lee, Oncolegydd
Clinigol Ymgynghorol a Chyfarwyddwr Meddygol. Pwyllgor Sefydlog Cymru o Goleg
Brenhinol y Radiolegwyr Dr Richard Clements, Cadeirydd Pwyllgor
Sefydlog Cymru a Radiolegydd Ymgynghorol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan; Dr Martin Rolles, Ysgrifennydd Pwyllgor
Sefydlog Cymru ac Oncolegydd Clinigol Ymgynghorol, Bwrdd Iechyd Prifysgol
Abertawe Bro Morgannwg. Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1. Bu’r tystion yn ateb
cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor. |
|
(10:20 - 11:10) |
Ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 13 Coleg Brenhinol y Ffisigwyr Dr Alan Rees, Is-lywydd Cymru. Cymdeithas Gastroenteroleg ac Endoscopi
Cymru Dr Miles Allison, Meddyg ymgynghorol, cyfarwyddwr
clinigol gastroenteroleg ac is-lywydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Coleg Brenhinol y Llawfeddygon Jared Torkington, Llawfeddyg ymgynghorol
laparosgopig y colon a'r rhefr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1. Bu’r tystion yn ateb
cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor. 4.2. Gofynnodd Leighton Andrews AC
am nodyn gan Lywodraeth Cymru am yr enghraifft a roddwyd gan Jared Torkington o
gynllun hyfforddiant a gyflwynwyd yng Nghymru ar gyfer llawdriniaeth y colon
a'r rhefr laparosgopig. |
|
(11:20 - 12:30) |
Ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 14 Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr
Cyffredinol Dr Nazia Hussain, Coleg Brenhinol yr
Ymarferwyr Cyffredinol Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1. Bu’r tyst yn ateb cwestiynau
gan aelodau’r Pwyllgor. 5.2. Dywedodd y Dr Nazia Hussain y
byddai'n darparu:
|
|
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1. Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod a
gynhaliwyd ar 6 Mawrth 2014. |
||
Adroddiad am waith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru Nododd yr Aelodau eu siom sylweddol bod canfyddiadau
adroddiad y Pwyllgor ar waith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi'u datgelu cyn
pryd. Trafododd yr Aelodau ddatganiad gan y Gweinidog a gyhoeddwyd
y bore hwnnw yn ymwneud â threfniadau newydd ar gyfer ymdrin â phryderon
difrifol ynghylch gwasanaethau a sefydliadau'r GIG. Holodd yr Aelodau ynghylch
amseriad y datganiad, o ystyried ei fod yn berthnasol i adroddiad y Pwyllgor ar
waith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Eglurwyd ar ôl y cyfarfod bod y datganiad
wedi deillio o waith a wnaed gan Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal
Iechyd Cymru yng nghyswllt trefniadau llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol
Betsi Cadwaladr. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau 1 a 2 o'r cyfarfod ar 26 Mawrth. Cofnodion: 7.1. Derbyniodd y Pwyllgor y
cynnig. |