Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Darren Millar, Gwyn Price a Kirsty Williams. |
||
(09:15 - 10:05) |
Ymchwiliad i'r mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 8 Ymchwil Canser y DU Emma Greenwood, Pennaeth Datblygu
Polisi, Ymchwil Canser y DU Clare Bath, Swyddog Materion Cyhoeddus
Cymru Dr
Tom Crosby, Cyfarwyddwr Clinigol Canolfan Ganser Felindre a Chyfarwyddwr
Meddygol Rhwydwaith Canser De Cymru. Bernadette McCarthy, Rheolwr
Radiotherapi, Canolfan Ganser Felindre Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1. Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor. 2.2 Rhoddodd Emma Greenwood wybod i'r Pwyllgor am y cydweithrediad
diweddar rhwng Cancer Research UK a GIG Lloegr a oedd yn gofyn i grwpiau
perthnasol o fewn y diwydiant sut roeddent yn rhagweld maes radiograffeg mewn
deng mlynedd. Cytunodd Ms Greenwood i rannu gwybodaeth am y gwaith hwn gyda'r
Pwyllgor. |
|
(10:05 - 10:50) |
Ymchwiliad i'r mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 9 Cynghrair Geneteg y DU Buddug Cope, Cyfarwyddwr Datblygu
Cynghrair Geneteg y DU Emma Hughes, Swyddog Datblygu Cynghrair
Geneteg y DU Hayley Norris, Cynrychiolwyr cleifion Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor. 3.2 Cytunodd Buddug Cope i roi gwybodaeth i'r Pwyllgor am y cyswllt rhwng
rhaglen technoleg iechyd NICE a Rhwydwaith Profi Geneteg y DU (UKGTN). 3.3 Cytunodd Ms Cope hefyd i roi eglurhad pellach i'r Pwyllgor am y
gydberthynas rhwng cymeradwyo profion newydd gan UKGTN a'u comisiynu wedyn gan
GIG yr Alban. |
|
(11:00 - 12:00) |
Ymchwiliad i'r mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 10 MediWales Gwyn Tudor, Rheolwr y Fforwm Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor. 4.1 Cytunodd y Pwyllgor i drafod eitemau 6, 7 ac 8 cyn trafod eitem 5. |
|
(13.00 - 14.00) |
Ymchwiliad i'r mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 11 Yr Athro Carl Heneghan, Canolfan
Meddygaeth Seiliedig ar Dystiolaeth, Prifysgol Rhydychen Partneriaeth Gwyddoniaeth Iechyd Academaidd De-ddwyrain Cymru Dr Corinne Squire, Rheolwr Rhwydwaith Gwyddoniaeth Iechyd Academaidd Gorllewin Lloegr Lars Sundstrom, Cyfarwyddwr Menter a
Chyfieithu Deborah Evans, Rheolwr Gyfarwyddwr Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor. 5.2 Cytunodd Lars Sundstrom, Rhwydwaith Gwyddorau Iechyd Academaidd
Gorllewin Lloegr, i ddarparu nodyn ar y system newydd sydd wedi'i chyflwyno yn
Lloegr (sydd ar gael i sefydliadau yng Nghymru), sy'n caniatáu mynediad at
gyllid ac yn rhoi ffordd o gomisiynu gwaith ymchwil a datblygu drwy'r system
gofal iechyd. |
|
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfodydd blaenorol. |
||
Llythyr gan y Prif Swyddog Nyrsio mewn perthynas â chamau gweithredu sy’n deillio o gyfarfod y Pwyllgor ar 30 Ionawr 2014 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6a.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Swyddog Nyrsio. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitem 8. Cofnodion: 7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig i drafod eitem 8 yn breifat. |
||
(14.05 - 14.20) |
Trafod ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i lythyr y Pwyllgor ynghylch yr ymchwiliad dilynol i leihau’r risg o strôc Cofnodion: 8.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y llythyr gan y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch yr ymchwiliad dilynol i leihau'r risg o
strôc. 8.2 Cytunodd y Pwyllgor y byddai'n trafod camau gweithredu yn ei gyfarfod
cyhoeddus ar 20 Mawrth 2014. |