Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. 1.2 Croesawodd y Cadeirydd
Janet Finch-Saunders i'r Pwyllgor ac estynnodd ddiolch i William Graham am ei
gyfraniad at waith y Pwyllgor. |
||
(09:15 - 10:15) |
Ymchwiliad i'r mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 6 Byrddau Iechyd Lleol Fiona Jenkins, Cyfarwyddwr
Gweithredol Therapïau a Gwyddorau Iechyd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r
Fro Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru Dr Geoffrey Carroll,
Cyfarwyddwr Meddygol Dr Phil Webb, Cyfarwyddwr
Cynorthwyol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Atebodd Fiona Jenkins o
Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Pushpinder Mangat o Fwrdd Iechyd
Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, a Dr Geoffrey Carroll a Dr Philip Webb o
Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru gwestiynau gan aelodau'r pwyllgor. 2.2 Ar ddiwedd y sesiwn,
cytunodd Dr Webb i ddarparu nodyn i'r Pwyllgor yn amlinellu un argymhelliad
allweddol y byddai Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn ei wneud i'r
Pwyllgor mewn perthynas â gwella'r mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru
a sut y gellid cyflawni hyn. |
|
(10:15 - 11:05) |
Ymchwiliad i'r mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 7 Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru Mark Roscrow, Cyfarwyddwr,
Gwasanaethau Caffael Labordy Profi Deunyddiau Llawfeddygol Pete Phillips, Cyfarwyddwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro Alun Tomkinson, Llawfeddyg
Clust, Trwyn a Gwddf Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Atebodd Mark Roscrow o
Bartneriaeth Cydwasanaethau’r GIG, Pete Phillips o'r Labordy Profi Deunyddiau
Llawfeddygol, ac Alun Tomkinson o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
gwestiynau gan aelodau'r pwyllgor. |
|
Papurau i'w nodi Cofnod y cyfarfod ar 5
Chwefror 2014 Llythyr gan y Pwyllgor Busnes
ynghylch effeithiolrwydd Pwyllgorau wrth wneud gwaith craffu ar y Gyllideb Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Nododd y Pwyllgor
gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Chwefror 2014. 4.2 Nododd y Pwyllgor y
llythyr gan y Pwyllgor Busnes ynghylch gwaith craffu effeithiol y Pwyllgor ar y
Gyllideb a chytunodd y dylai'r Cadeirydd ateb y Pwyllgor Busnes a chadarnhau
bod y Pwyllgor yn cefnogi adolygiad o broses y gyllideb |
||
(11:05) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitemau 6 a 7 Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(11:15 - 12:15) |
Trafodaeth breifat ar adroddiad drafft y Pwyllgor ar Waith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru Cofnodion: 6.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod ei
adroddiad drafft ar waith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. |
|
(12:15 - 12:30) |
Ystyried dull gweithio’r Pwyllgor ar gyfer ei waith dilynol ar y cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru Cofnodion: 7.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod a
chytunodd ar ei ddull gweithio ar gyfer ei waith dilynol ar y cyfraniad a wneir
gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru. |