Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Cyswllt: Polisi: Llinos Dafydd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Nid oedd unrhyw ymddiheuriadau na
dirprwyon. |
||
(09.30 - 10.30) |
Craffu ar waith y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol HSC(4)-33-12
papur 1 Lesley Griffiths AC, Y Gweinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol David Sissling, Cyfarwyddwr Cyffredinol,
Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant Dr Chris
Jones, Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Atebodd y
Gweinidog a’i swyddogion gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor. 2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth ysgrifenedig am brosiectau
cyfalaf sydd heb eu cyflawni, y manylion fesul bwrdd iechyd o sut byddai’r £82
miliwn ychwanegol ar gyfer y GIG yn cael ei ddyrannu, sut bydd Llywodraeth
Cymru yn cyfrannu at yr adolygiad o’r cydbwysedd o ran cymhwysedd rhwng y DU
a’r UE, a’r ddarpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl ar gyfer staff yn y
lluoedd arfog a’r gwasanaethau brys. |
|
(10.30) |
Papurau i'w nodi |
|
Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Faterion Ewropeaidd HSC(4)-33-12
papur 2 Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Nododd y
Pwyllgor y papur. |
||
Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol: Camau gweithredu yn deillio o'r cyfarfod ar 17 Hydref a oedd yn craffu ar y gyllideb HSC(4)-33-12
papur 3 Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.2 Nododd y
Pwyllgor y llythyr. |
||
(10:40 - 10:50) |
Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru): Ystyried penodi Cynghorydd Arbenigol i gynorthwyo’r gwaith o graffu ar y Bil HSC(4)-33-12
papur 4 Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Trafododd y
Pwyllgor yr opsiwn o benodi cynghorydd arbenigol i’w gynorthwyo â’r gwaith o
graffu ar y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant
(Cymru) yng nghyfnod 1. 4.2 Cytunodd y Pwyllgor mewn egwyddor y byddai cymorth o’r maes polisi
perthnasol yn ddefnyddiol a bod gwerth ymchwilio i’r opsiwn. Cytunodd y
Pwyllgor y gallai fod o fudd chwilio am gyngor gan nifer o gynghorwyr, a allai
ei gynorthwyo i ystyried materion penodol, yn hytrach na phenodi un cynghorydd
arbenigol. 4.3 Holodd y Pwyllgor y tîm clercio i ymchwilio ymhellach a dod ag enwau ymgeiswyr posibl i’r Aelodau yn y cyfarfod nesaf. |
|
(10:50 - 11:05) |
Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) - Cyfnod 1: y dull o graffu HSC(4)-33-12 papur 5 Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1 Cytunodd y
Pwyllgor ar y cylch gorchwyl a’r dull o graffu ar y Bil Trawsblannu Dynol
(Cymru) a chytunodd i lansio ymgynghoriad cyhoeddus yn fuan. |
|
(11:05 - 11.20) |
Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru): Cyfnod 1 – y dull o graffu HSC(4)-33-12 papur 6 Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.1 Cyfeiriodd
Cadeirydd y Pwyllgor at lythyr diweddar a gafodd oddi wrth y Llywydd yn nodi,
yn ei barn hi, bod y Bil o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad. Fodd
bynnag, nododd hefyd fod ei barn ar fin y gyllell o ran rhai rhannau o’r Bil.
Amlinellodd y Cadeirydd y rhannau hynny o’r Bil a dywedodd y byddai’r llythyr
yn cael ei anfon at Aelodau’n fuan. 6.2 Cytunodd y Pwyllgor y dylid ystyried y materion a godwyd gan y Llywydd
adeg y broses graffu yng Nghyfnod 1. Holwyd cynghorwyr cyfreithiol y Pwyllgor i
ddarparu rhagor o wybodaeth am y materion a gododd y Llywydd er mwyn gallu
llunio cwestiynau i gynorthwyo’r Pwyllgor i ymchwilio i’r materion hynny gyda’r
tystion perthnasol. 6.3 Trafododd y
Pwyllgor ei ddull o graffu ar y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau
Asbestos (Cymru) yng Nghyfnod 1. 6.4 Roedd y Pwyllgor yn fodlon â’r dull cyffredinol o graffu a awgrymwyd ym
mhapur y Pwyllgor ond cytunodd y dylid ychwanegu cwestiwn am gymhwysedd
deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol at y llythyr ymgynghoriad. 6.5 Cytunwyd hefyd y dylid ystyried cynrychiolwyr o elusennau canser,
byrddau iechyd, y diwydiant adeiladu a sefydliadau sy’n cynhyrchu asbestos fel
tystion llafar ychwanegol. |
|
Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru): Cyfnod 1 – sesiwn dystiolaeth 1 - GOHIRIWYD |
||
Trawsgrifiad Gweld y trawsgrifiad o'r cyfarfod |