Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Cyswllt: Polisi: Llinos Dafydd / Deddfwriaeth: Fay Buckle
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13:15) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Vaughan Gething a Kirsty
Williams. Roedd Jenny Rathbone ac Aled Roberts yn dirprwyo. |
|
(13:15 - 14:00) |
Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru): Cyfnod 1 - Sesiwn dystiolaeth 3 Ffederasiwn Busnesau Bach Iestyn Davies – Pennaeth Materion Allanol, Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru Mike Jones, Aelod o Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru Dean Bolton, Aelod o Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru HSC(4)-22-12(p1) Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Bu’r Pwyllgor
yn clywed tystiolaeth gan y Ffederasiwn Busnesau Bach. 2.2 Cytunodd y
ffederasiwn i ysgrifennu at y Pwyllgor gyda manylion penodol am niferoedd a
busnesau sy’n gwneud yn dda a ddim cystal gyda hylendid bwyd o’r grŵp ffocws o aelodau’r ffederasiwn a gynorthwyodd
â’r dystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynwyd i’r Pwyllgor. |
|
(14:00 - 15:00) |
Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru): Cyfnod 1 - Sesiwn dystiolaeth 3 Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd Julie Barratt – Cyfarwyddwr Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd (Cymru) HSC(4)-22-12(p2) Iechyd Cyhoeddus Cymru Dr Marion Lyons – Cyfarwyddwr Diogelu Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru HSC(4)-22-12(p3) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Bu’r Pwyllgor
yn clywed tystiolaeth gan Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd Cymru ac Iechyd
Cyhoeddus Cymru. |
|
(15:00 - 15:30) |
Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru): Cyfnod 1 - Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 4.1 Nododd
Aelodau faterion allweddol a godwyd o’r dystiolaeth a gafwyd wrth graffu ar Fil
Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru). |
|
Trawsgrifiad |