Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Polisi: Llinos Dafydd / Deddfwriaeth: Fay Buckle
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(10:00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Kirsty Williams. Roedd Aled Roberts yn dirprwyo ar ei rhan. |
|
(10.00 - 10.05) |
Ystyried cynnig a hysbyswyd i'r Pwyllgor yn unol â Rheol Sefydlog 17.44 Elin Jones AC
(Ceredigion) Cynnig bod y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Yn neilltuo
amser yn ystod ei gyfarfod
nesaf, ar 18 Gorffennaf 2012, i graffu ar waith y Gweinidog
Iechyd, ei swyddogion ac, os ar gael, yr
Athro Marcus Longley, a hynny
o ran yr ohebiaeth rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a’r Athro Longley a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Cofnodion: 2.1 Ni chafwyd
gwrthwynebiadau i’r cynnig, felly cytunwyd ar y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
17.34(i). |
|
(10:05 - 10:15) |
Ymchwiliad i’r gwaith o weithredu’r fframwaith gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer diabetes yng Nghymru a’i ddatblygiad yn y dyfodol - Ystyriaeth o'r cylch gorchwyl HSC(4)-21-12 papur 1 Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Cytunodd y
Pwyllgor ar y cylch gorchwyl ar gyfer ei ymchwiliad i weithredu’r fframwaith
gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer diabetes yng Nghymru a’i gyfeiriad yn y
dyfodol, ac y byddai’n cyhoeddi ymgynghoriad dros doriad yr haf. 3.2 Cytunodd y Pwyllgor
ar ei fwriad i gynnal ymchwiliad i werthusiad o dechnegol feddygol ac
ymgynghori ar gwmpas yr ymchwiliad dros doriad yr haf. |
|
(10:15 - 11:15) |
Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru): Cyfnod 1 - Sesiwn dystiolaeth 1 Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng
Nghymru Steve Wearne – Cyfarwyddwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru HSC(4)-21-12(p2) Llais Defnyddwyr Cymru Liz Withers – Pennaeth Polisi, Llais Defnyddwyr Cymru HSC(4)-21-12(p3) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Bu’r Pwyllgor
yn clywed tystiolaeth gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd a Llais Defnyddwyr Cymru. 4.2 Cytunodd
Steve Wearne (ASB) i anfon copi o’r astudiaeth ansoddol i’r Pwyllgor ar waith
pellach a gomisiynwyd yn dilyn astudiaeth defnyddwyr Llais Defnyddwyr Cymru pan
gaiff ei gyhoeddi ddiwedd mis Gorffennaf. |
|
(11:15 - 12:15) |
Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru): Cyfnod 1 - Sesiwn dystiolaeth 2 Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chyfarwyddwyr Diogelu’r Cyhoedd Simon Wilkinson – Swyddog Polisi - Gwasanaethau Rheoliadol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Graham Perry – Cyngor Sir Fynwy / Cyfarwyddwyr Diogelu’r Cyhoedd HSC(4)-21-12(p4) Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1 Bu’r Pwyllgor
yn clywed tystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chyfarwyddwyr Diogelu'r
Cyhoedd Cymru. |
|
(12:15) |
Papurau i'w nodi HSC(4)-21-12(p5) – Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) dyddiedig 31 Mai 2012 HSC(4)-21-12(p6) - Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Cadeirydd ar y Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) dyddiedig 18 Mehefin 2012 HSC(4)-21-12(p7) - Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) dyddiedig 21 Mehefin 2012 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Nodwyd y papurau. |
|
Trawsgrifiad |