Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Cyswllt: Polisi: Llinos Dafydd / Deddfwriaeth: Fay Buckle
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Nid oedd dim ymddiheuriadau na dirprwyon. |
||
(08:30 - 10:00) |
Ystyried gohebiaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a’r Athro Marcus Longley HSC(4)-23-12 papur 1a : Gwybodaeth a gyhoeddwyd ar log datgelu Llywodraeth Cymru HSC(4)-23-12 papur 1b : Y Trefniant
Gorau ar gyfer Gwasanaethau Ysbytai Cymru: Adolygiad o’r Dystiolaeth (ysgrifennwyd gan yr Athro Longley) HSC(4)-23-12
papur 1c : Gwybodaeth gan Gonffederasiwn GIG Cymru 08:30 – 09:15 – sesiwn 1 Yr Athro Marcus Longley 09:15 – 10:00 – sesiwn 2 Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol David Sissling, Cyfarwyddwr
Cyffredinol, Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant, Llywodraeth Cymru a Prif Weithredwr, GIG Cymru Dr Chris Jones, Cyfarwyddwr Meddygol, GIG Cymru a Dirprwy Brif Swyddog Meddygol
Cymru, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Bu’r Pwyllgor yn holi’r Athro Marcus Longley ynghylch yr ohebiaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru ac yntau. 2.2 Bu’r Pwyllgor yn holi Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, David Sissling a Dr Chris Jones ynghylch yr ohebiaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a’r Athro Marcus Longley. 2.3 Oherwydd problemau technegol, gohiriwyd y Pwyllgor rhwng 9.32 a 10.05. |
|
(10:00 - 10:30) |
Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru): Cyfnod 1 - Sesiwn dystiolaeth 4 Y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol Lesley Griffiths AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol Christopher Brereton - Pennaeth Deddfwriaeth Iechyd y Cyhoedd yr Amgylchedd, Llywodraeth Cymru Christopher Humphreys - Yr Adran Gwasanaethau Cyfreithiol, Llywodraeth Cymru Cofnodion: 3.1 Oherwydd y problemau technegol yn gynharach a’r cyfyngiadau amser, cytunodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i’r Cadeirydd ysgrifennu ati gyda'r cwestiynau y byddai’r Aelodau wedi eu gofyn a bydd yn ymateb i’r Pwyllgor yn ysgrifenedig. |
|
(10:30 - 11:30) |
Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru): Cyfnod 1 - Sesiwn dystiolaeth 4 Cymdeithas y Siopau
Cyfleus Shane Brennan - Cyfarwyddwr Cysylltiadau Cyhoeddus,
Cymdeithas y Siopau Cyfleus HSC(4)-23-12 papur 2 Cymdeithas Cwrw a
Thafardnai Prydain Brigid Simmonds – Prif
Weithredwr, Cymdeithas Cwrw a
Thafarndai Prydain HSC(4)-23-12 papur 3 Cymdeithas
Lletygarwch Prydain John Dyson – Cynghorydd Bwyd a Materion Technegol,
Cymdeithas Lletygarwch Prydain HSC(4)-23-12 papur 4 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas y Siopau Cyfleus, Cymdeithas Cwrw a Thafarndai Prydain a Chymdeithas Lletygarwch Prydain. |
|
Papurau i'w nodi Cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 28 Mehefin a 4 Gorffennaf Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 28 Mehefin a 4 Gorffennaf. |
||
Yr ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn: nodiadau o'r cyfarfodydd o'r grwpiau cyfeirio a gynhaliwyd ar 24 Mai a 12 Mehefin Nodyn o’r cyfarfod o’r grŵp cyfeirio a gynhaliwyd ar 24 Mai HSC(4)-23-12 papur 5 Nodyn o’r cyfarfod o’r grŵp cyfeirio a gynhaliwyd ar 12 Mehefin HSC(4)-23-12 papur 6 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.2 Nododd y Pwyllgor y papurau. 5.3 Cofnododd y Cadeirydd ddiolch y Pwyllgor am y gwaith, a’r cyfraniad gwerthfawr, a wnaeth aelodau’r Grŵp Cyfeirio, a sefydlwyd i gynorthwyo’r Pwyllgor yn ei ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn. |
||
(11:30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Cofnodion: 6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig. |
|
(11:30 - 12:15) |
Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru): y prif faterion Cofnodion: 7.1 Ystyriodd y Pwyllgor y papur materion allweddol a chytunodd arnynt a gwnaeth rhai awgrymiadau ar gyfer yr adroddiad. |
|
(12:15 - 13:00) |
Yr ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn: y prif faterion Cofnodion: 8.1 Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol ar gyfer yr adroddiad ar yr ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn a chytunodd arnynt. |