Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Cyswllt: Llinos Dafydd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Lindsay Whittle a Kirsty Williams. Roedd William Powell yn dirprwyo ar ran Kirsty Williams. |
||
(09.00 - 09.30) |
Gwasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru - tystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Ymatebodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’i swyddogion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor am wasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru. |
|
(09.30 - 11.50) |
Ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn - Tystiolaeth gan reoleiddwyr ac archwilwyr 09.30 – 10.45: Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ac
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru HSC(4)-16-12
papur 2 – Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru HSC(4)-16-12
papur 3 – Papur diweddaru gan Arolygiaeth Gofal
a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru Imelda Richardson, Prif Arolygydd, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru David Francis, Prif Arolygydd Cynorthwyol, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru Kevin Barker, Arolygydd, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru Peter Higson, Prif Weithredwr, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru Mandy Collins, Dirprwy Brif Weithredwr
a Chyfarwyddwr, Archwilio a Rheoleiddio, Arolygiaeth Gofal
Iechyd Cymru 10.45 – 10.50: Egwyl 10.50– 11.50: Cyngor Gofal Cymru HSC(4)-16-12
papur 4 Rhian Huws Williams, Prif Weithredwr Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor am ofal preswyl i bobl hŷn. 3.2 Cytunodd Ms Huws Williams a Mr Evans i ddarparu gwybodaeth am yr amserlen angenrheidiol ar gyfer uwchsgilio’r gweithlu gofal cymdeithasol er mwyn gallu ymateb i breswylwyr sydd ag ystod ehangach o anghenion, gan gynnwys y rhai sydd â dementia, ac i ddarparu copi o’r dystiolaeth a ddarparwyd gan Gyngor Gofal Cymru i’r Pwyllgor Menter a Busnes ar brentisiaethau. 3.3 Cytunodd Mr Evans i ddarparu copi o’r prosiect ymchwil, ‘Care at home’. |
|
(11.50 - 12.15) |
Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru): Cyfnod 1 - dull o graffu HSC(4)-16-12 papur 5 Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y dull o graffu ar Fil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) yn amodol ar gynnwys rhai ymgyngoreion ychwanegol. 4.2 Cytunodd y Cadeirydd
i ysgrifennu at y Gweinidog
Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ofyn am gopi cynnar o’r
rheoliadau drafft a ddarparwyd ar eu
cyfer gan y Bil. |
|
Papurau i'w nodi Cofnodion y cyfarfod
a gynhaliwyd ar 16 Mai HSC(4)-14-12 cofnodion Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Mai. |
||
Trawsgrifiad |