Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd

Cyswllt: Llinos Dafydd 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.

(09.30 - 11.00)

2.

Ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn - Trafodaeth gyda'r Athro John Bolton

Cofnodion:

2.1 Bu’r Athro John Bolton yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor ar ofal preswyl i bobl hŷn yng Nghymru.

(11.10 - 12.00)

3.

Ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn - Tystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

David Street, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Emily Warren, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

 

HSC(4)-11-12 papur 4 –Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

HSC(4)-11-12 papur 5 – Dinas a Sir Abertawe

HSC(4)-11-12 papur 6 – Cyngor Sir Fynwy

HSC(4)-11-12 papur 7 – Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-Bont ar Ogwr

HSC(4)-11-12 papur 8 – Cyngor Caerdydd

HSC(4)-11-12 papur 9 – Cyngor Sir Benfro

HSC(4)-11-12 paper 10 – Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor ar ofal preswyl i bobl hŷn.

 

3.2 Cytunodd Emily Warren i ddarparu copi o’r cynllun gweithredu a ddefnyddir gan awdurdodau lleol sy’n gweithio mewn partneriaeth â’r GIG, yn ogystal â gwybodaeth am y cynnydd a wnaed gan awdurdodau lleol o ran datblygu gwasanaethau ail-alluogi.

(12.00 - 12.50)

4.

Ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn - Tystiolaeth gan awdurdodau lleol

HSC(4)-11-12 papur 1

Bob Gatis, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gofal Cymunedol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Tâf

Luisa Bridgman, Rheolwr Gwasanaeth, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Tâf

 

HSC(4)-11-12 papur 2

          Susie Lunt, Rheolwr Gwasanaeth, Cyngor Sir y Fflint

 

HSC(4)-11-12 papur 3

Parry Davies, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Cyngor Sir Ceredigion

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor ar ofal preswyl i bobl hŷn.

 

4.2 Cytunodd y tystion i ddarparu gwybodaeth am nifer yr achosion, yn flynyddol, lle bu’n rhaid i bobl a oedd eisoes yn ariannu eu gofal preswyl eu hunain ofyn i awdurdod lleol ariannu eu gofal ar ôl iddynt wario eu harian personol i gyd. 

 

(12.50 - 13.00)

5.

Ymchwiliad undydd i farwenedigaeth yng Nghymru - Ystyried y cylch gorchwyl

HSC(4)-11-12 papur 11

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar gylch gorchwyl ei ymchwiliad undydd i farwenedigaeth yng Nghymru.

6.

Papurau i'w nodi

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Mawrth

HSC(4)-08-12 cofnodion

HSC(4)-09-12 cofnodion

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 8 Mawrth.

6a

Gwybodaeth ddilynol o gyfarfod 25 Ionawr - materion yn ymwneud â'r UE - Gofal preswyl i bobl hŷn yn aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd

HSC(4)-11-12 papur 12

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.2 Nododd y Pwyllgor y papur ar ofal preswyl i bobl hŷn yn aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd.

Trawsgrifiad