Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Dafydd 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Mick Antoniw a Darren Millar. Roedd Gwyn R Price yn dirprwyo ar ran Mick Antoniw.

(09.30 - 10.25)

2.

Ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru - Tystiolaeth gan BMA Cymru Wales, Cymdeithas y Meddygon Fferyllol a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol

HSC(4)-09-11 papur 1- BMA Cymru Wales

          Dr David Bailey, Cadeirydd, Pwyllgor Ymarfer Cyffredinol Cymru

Dr Phillip White, Trafodwr Pwyllgor Ymarfer Cyffredinol Cymru

 

HSC(4)-09-11 papur 2 – Cymdeithas y Meddygon Fferyllol

          Dr David Baker, Prif Weithredwr

 

HSC(4)-09-11 papur 3 – Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol

Dr Paul Myers, Cadeirydd Etholedig

 

Toriad 10.25 – 10.30

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Atebodd y tystion gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor am y cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru.

 

2.2 Gofynnodd y Pwyllgor am fap sy’n dangos lleoliadau safleoedd practisau fferyllol yng nghefn gwlad Cymru.

 

2.3 Cytunodd Dr Myers i rannu papur gyda’r Pwyllgor ynghylch yr astudiaeth beilot a gynhaliwyd gan Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan ar y defnydd o Adolygiadau ar y Defnydd o Feddyginiaethau gan fferyllfeydd cymunedol.

(10.30 - 11.30)

3.

Ymchwiliad i Leihau'r Risg o Strôc - Tystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

HSC(4)-09-11 papur 4

Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dr Tony Jewell, Prif Swyddog Meddygol
Chris Tudor-Smith, Pennaeth yr Is-adran Gwella Iechyd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Atebodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Prif Swyddog Meddygol a Dr Chris Jones gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor ynghylch lleihau'r risg o strôc.

(11.30 - 12.15)

4.

Ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru - Tystiolaeth gan gynrychiolwyr y GIG

HSC(4)-09-11 papur 5 – Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda

HSC(4)-09-11 papur 6 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

HSC(4)-09-11 papur 7 – Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Tâf

 

          Chris Martin, Cadeirydd, Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda

Berwyn Owen, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Cyfarwyddwr Rhaglen Cenedlaethol Rheolaeth Meddyginiaethau

Bernadine Rees, Cyfarwyddwr Gweithredol, Gofal Iechyd Sylfaenol, Iechyd Cymunedol ac Iechyd Meddwl, Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Tâf

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Atebodd y tystion gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor am y cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru.

5.

Papurau i'w nodi

Ymchwiliad i Leihau'r Risg o Strôc

 

HSC(4)-09-11 papur 8

Gwybodaeth gan Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

 

HSC(4)-09-11 papur 9

Gwybodaeth gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru

 

HSC(4)-09-11 papur 10

Gwybodaeth ychwanegol gan gynrychiolwyr Byrddau Iechyd

 

HSC(4)-09-11 papur 11

Ymateb gan y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol

 

Ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru

 

HSC(4)-09-11 papur 12

Gwybodaeth ychwanegol gan y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol

 

HSC(4)-09-11 papur 13 – Papur heb ei dderbyn

Gwybodaeth ychwanegol gan Fferylliaeth Gymunedol Cymru

 

HSC(4)-09-11 papur 14

Gwybodaeth ychwanegol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

Craffu ar Adroddiad Flynyddol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

 

HSC(4)-09-11 papur 15

Gwybodaeth ychwanegol gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal sesiwn tystiolaeth gyda chynrychiolwyr o Fferyllfeydd Cymunedol yr Alban a Chymdeithas Fferyllol Frenhinol yr Alban mewn cynhadledd fideo ar 24 Tachwedd fel rhan o’r ymchwiliad i fferyllfeydd cymunedol.

 

5.2 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal sesiwn hyfforddiant anffurfiol ar graffu ar ddeddfwriaeth. Bwriedir cynnal y sesiwn ar 10 Tachwedd a bydd modd i aelodau o’r Pwyllgor ganiatáu i aelod o’u staff ddod i’r sesiwn.

Trawsgrifiad