Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Dafydd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.00 - 10.45) |
Paratoi i graffu ar y gyllideb Cofnodion: 1.1 Cynhaliodd y Pwyllgor drafodaeth â chynrychiolwyr iechyd a gofal cymdeithasol ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2012-13. |
|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 2.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan William Graham. Nid oedd neb yn dirprwyo ar ei ran. |
||
(10.45 - 11.45) |
Ymchwiliad i'r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru - Tystiolaeth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru HSC(4)-07-11
papur 1 Anne Hinchliffe, Ymgynghorydd meddygol ym maes Iechyd Cyhoeddus Fferyllol Nuala Brennan, Ymgynghorydd meddygol ym maes Iechyd Cyhoeddus Fferyllol Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Atebodd y tystion gwestiynau Aelodau’r Pwyllgor ar gyfraniad fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru. 3.2 Cytunodd y tystion i ddarparu gwybodaeth ychwanegol am: y data sydd ar gael ynghylch nifer yr adolygiadau o'r defnydd o feddyginiaethau a gynhelir; a gwybodaeth bresennol ynghylch dewisiadau cleifion ar gyfer ymgynghoriadau gan feddygon teulu neu fferyllwyr. 3.3 Cytunodd Ms Brennan i ystyried system achredu wedi’i symleiddio ar gyfer fferyllwyr cymunedol a’r hyn y byddai’n ei chynnwys, a dywedodd y bydd yn rhannu eu sylwadau â’r Pwyllgor. |
|
Papurau i'w nodi Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau ynghylch deiseb P-03-292 Darparu Toiledau Cyhoeddus HSC(4)-07-11 papur 2 Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Cytunodd y Pwyllgor i drefnu sesiwn ar ôl toriad y Nadolig i drafod y materion a godwyd gan y ddeiseb ar y ddarpariaeth o doiledau cyhoeddus. |
||
Trawsgrifiad |