Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Dafydd
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Ni chafwyd ymddiheuriadau. |
|
Ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru - Tystiolaeth gan y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol (09:30 - 10:30) HSC(4)-04-11 papur 1 Mair Davies, Cadeirydd Bwrdd Fferylliaeth Cymru Paul Gimson, Cyfarwyddwr dros Gymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Atebodd y tystion gwestiynau a ofynnwyd gan Aelodau’r Pwyllgor ynghylch cyfraniad fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru. 2.2 Cytunodd y tystion i ddarparu gwybodaeth bellach am fodel fferyllfeydd cymunedol yr Alban, gan gynnwys ariannu gwasanaethau TG a rennir. 2.3 Cytunodd y tystion i ddarparu gwybodaeth bellach am y datganiad ar y cyd gan y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol ynghylch cydweithredu. |
|
Ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru - Tystiolaeth gan Fferylliaeth Gymunedol Cymru (10:30 - 11:30) HSC(4)-04-11 papur 2 Russell Goodway, Prif Weithredwr Ian Cowan, Cadeirydd Chris James, Is-gadeirydd Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Atebodd y
tystion gwestiynau a ofynnwyd gan Aelodau’r Pwyllgor ynghylch cyfraniad
fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru. 3.2 Cytunodd y
tystion i rannu â’r Pwyllgor ganlyniadau’r arolwg y maent yn ei gynnal i
gontractwyr fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru o’r gwasanaethau ychwanegol a gomisiynwyd
gan y Bwrdd Iechyd lleol ac sy’n cael ei ddarparu, a pha wasanaethau fyddai o
werth i’w cymunedau lleol ond nad ydynt wedi’u comisiynu gan y Bwrdd Iechyd
lleol ar hyn o bryd. |
|
Ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hyn - Cytuno ar y cylch gorchwyl (11:30 - 11:40) HSC(4)-04-11 papur 3 Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Cytunodd y Pwyllgor y dylid cyfeirio at gydbwysedd y ddarpariaeth rhwng cartrefi gofal preifat a chyhoeddus a’r llwybr i ofal preswyl yng nghylch gorchwyl yr ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn. 4.2 Cytunodd y Pwyllgor y dylid anfon cylch gorchwyl drafft yr ymchwiliad at randdeiliaid ac y dylid rhoi pythefnos er mwyn iddynt gyflwyno eu sylwadau arno. |
|
Trawsgrifiad |