Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(09.30)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Lindsay Whittle.

 

(09.30 - 09.35)

2.

Papurau i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.0a Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr. 

 

2.1

Ymchwiliad i broses gwynion y GIG: gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.

 

2.2

Ymchwiliad dilynol i'r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru: gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.2a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.

 

2.3

Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon”): gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.3a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.

 

2.4

Blaenraglen waith y Pwyllgor: gohebiaeth gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.4a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.

 

2.5

Craffu ar waith Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru: gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.5a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.

 

2.6

Gohebiaeth gan y Pwyllgor Deisebau: P-04-570 Argaeledd Anghyfartal o ran Triniaethau nad ydynt wedi’u Harfarnu’n Genedlaethol gan GIG Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.6a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a chytunodd i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau i dynnu sylw at ei waith diweddar mewn perthynas â'r broses Cais Cyllido Cleifion Unigol.

 

(09.35)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau 4 a 5

Cofnodion:

3.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(09.35 - 09.45)

4.

Ymchwiliad i gamddefnyddio alcohol a sylweddau: paratoi ar gyfer gweithgarwch ymgysylltu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y trefniadau ar gyfer gweithgaredd ymgysylltu'r ymchwiliad i gamddefnyddio alcohol a sylweddau.

 

(09.45 - 10.00)

5.

Gwybodaeth ddilynol am yr ymchwiliad undydd i farw-enedigaethau yng Nghymru: ystyried y dystiolaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a'r adroddiad diweddaru gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at y Gweinidog i nodi'r cynnydd a wnaed hyd yn hyn, ac i ofyn am ragor o wybodaeth am rai materion penodol a godwyd yn y dystiolaeth.

 

(10.00 - 10.45)

6.

Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon"): sesiwn dystiolaeth 8

Dan Greaves, Pennaeth yr Uned Alcohol a Chyffuriau, y Swyddfa Gartref

Angela Scrutton, Pennaeth Deddfwriaeth Cyffuriau, y Swyddfa Gartref

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

6.2 Cytunodd y tystion i ddarparu rhagor o wybodaeth am y broses a ddefnyddiodd cydweithwyr yn y Swyddfa Gartref i ymgynghori â'r gweinyddiaethau datganoledig ynghylch deddfwriaeth Ewropeaidd arfaethedig ym maes sylweddau seicoweithredol newydd.

 

(11.00 - 12.15)

7.

Y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): sesiwn dystiolaeth 1

Kirsty Williams AC, Aelod sy’n Gyfrifol

Lisa Salkeld, y Gwasanaethau Cyfreithiol, Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Philippa Watkins, y Gwasanaeth Ymchwil, Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru  

 

Bil Lefelau Diogel Staffio Nyrsio (Cymru)

 

Memorandwm Esboniadol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Ymatebodd yr Aelod sy'n gyfrifol am y Bil (Kirsty Williams) i gwestiynau gan yr Aelodau.

7.2 Cytunodd yr Aelod sy'n gyfrifol i roi amlinelliad i'r Pwyllgor o ba ddangosyddion nyrsio diogel a amlinellir yn adran 3(5) o'r Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) sy'n deillio o ganllawiau'r Prif Swyddog Nyrsio a chanllawiau NICE a pha rai a gafodd eu cynnwys o ganlyniad i'r ymatebion i'w hymgynghoriadau ar y Bil.

(12.15)

8.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

8.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(12.15 - 12.30)

9.

Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon"): ystyried y dystiolaeth a ddaeth i law.

Cofnodion:

9.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth.

 

(12.30 - 12.45)

10.

Y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): ystyried y dystiolaeth

Cofnodion:

10.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.