Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(09.30)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

1.2 Dirprwyodd Peter Black ar ran Kirsty Williams AC ar gyfer yr eitemau'n ymwneud â'r Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru).

1.3 Nododd y Cadeirydd gydymdeimlad y Pwyllgor â'r Prif Swyddog Nyrsio, a oedd yn methu â bod yn bresennol yn y cyfarfod oherwydd profedigaeth yn y teulu. Cytunodd y Pwyllgor i ddod o hyd i ddyddiad arall i'r Prif Swyddog Nyrsio ddarparu tystiolaeth ar y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru).

 

(09.30 - 10.15)

2.

Y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): sesiwn dystiolaeth 11

Yr Athro Gillian Leng, y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Ymatebodd y tyst i gwestiynau gan yr Aelodau.

2.2 Cytunodd yr Athro Leng i ddarparu'r canlynol ar gyfer y Pwyllgor:

  • amlinelliad o raglen waith NICE ar gyfer datblygu canllawiau staffio diogel ar gyfer nyrsio mewn lleoliadau y tu hwnt i wardiau cleifion mewnol i oedolion mewn ysbytai acíwt; ac
  • Adroddiad NICE ar ei asesiad o effaith cost ei ganllawiau Safe Staffing for nursing in adult inpatient wards in acute hospitals.

 

(10.15)

3.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.0a Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 4 a 12 Chwefror 2015.

 

3.1

Craffu ar Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru: gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth. Cytunodd yr Aelodau i ystyried unrhyw waith ychwanegol yr hoffent ei wneud mewn perthynas ag adroddiad  'Lle i'w Alw'n Gartref?' y Comisiynydd Pobl Hŷn - Adolygiad i Ansawdd Bywyd a Gofal Pobl Hŷn sy’n byw mewn Cartrefi Gofal yng Nghymru, yn ystod trafodaethau'r Pwyllgor ar ei flaenraglen waith ar 5 Mawrth 2015.

3.2

Gohebiaeth gan y Pwyllgor Deisebau: P-04-501 Gwneud Canolfannau Dydd ar gyfer pobl hŷn yn ofyniad statudol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a chytunodd i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau i dynnu sylw at y briff yr oedd wedi'i dderbyn ar 20 Tachwedd, 2014 ar weithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

(10.15)

4.

Cynnig o dan Reolau Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac ar gyfer eitem 1 y cyfarfod ar 5 Mawrth 2015

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.15 - 10.30)

5.

Y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

5.2 Yn sgil yr angen i ail-drefnu'r sesiwn dystiolaeth gyda'r Prif Swyddog Nyrsio, ac er mwyn sicrhau bod digon o amser i ystyried y dystiolaeth a gafwyd ar egwyddorion cyffredinol y Bil, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am estyniad i'r terfyn amser ar gyfer ei adroddiad Cyfnod 1.

 

(10.30 - 11.00)

6.

Y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru): trafod y dull o graffu yng Nghyfnod 1

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull o graffu ar y Bil yng Nghyfnod 1, a chytunwyd ar hyn.

(11.00 – 11.10)

7.

Gwybodaeth ddilynol ar yr ymchwiliad undydd i farw-enedigaethau yng Nghymru: trafod yr allbwn drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor lythyr drafft at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a chytunwyd ar y llythyr hwnnw. 

(11.10 – 11.20)

8.

Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon"): trafod lansio'r adroddiad

Cofnodion:

8.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod ei ddull o lansio ei adroddiad ar sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon").