Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(09.30)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Alun Davies.  Roedd Joyce Watson AC yn dirprwyo ar ei ran.

 

(09.30 - 09.35)

2.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.0a Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 20 a 26 Tachwedd.

 

2.1

Gwaith craffu ar ôl deddfu ar Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010: Gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. 

 

(09.35)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

3.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(09.35 - 10.20)

4.

Gwaith craffu ar ôl deddfu ar Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010: ystyried yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar y gwaith craffu ar ôl deddfu ar Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 a chytunodd arno yn amodol ar fân newidiadau.

 

(10.20 - 11.05)

5.

Blaenraglen waith y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod ei flaenraglen waith a chytunodd i:

  • ofyn am friff ffeithiol gan swyddogion Llywodraeth Cymru ar yr ymgynghoriad ar y Gronfa Byw’n Annibynnol – trefniadau ar gyfer y dyfodol i gefnogi’r sawl sy’n derbyn taliadau yng Nghymru;  
  • ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ragor o wybodaeth am gyllid iechyd, mewn ymateb i argymhelliad y Pwyllgor Cyllid yn ei adroddiad ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16 y dylai’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ymgymryd â darn o waith ar ddiwygio iechyd; ac
  • ymgymryd â darn byr o waith yn canolbwyntio ar weithlu meddygon teulu yng Nghymru.

 

(11.05 - 11.45)

6.

Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon"): ystyried y materion allweddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y materion allweddol sydd wedi codi yn ystod ymchwiliad y Pwyllgor i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon") a chytunodd arnynt.

6.2 Cytunodd y Pwyllgor i ymestyn yr ymchwiliad er mwyn cymryd tystiolaeth lafar gan swyddogion y Swyddfa Gartref yn ei gyfarfod ar 15 Ionawr 2015.

 

(11.45 - 12.30)

7.

Y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): ystyried yr ymagwedd i graffu yn ystod Cyfnod 1

Cofnodion:

7.1 Croesawodd y Cadeirydd Peter Black a fydd yn dirprwyo ar ran Kirsty Williams yn ystod busnes ynghylch craffu Cyfnod 1 y Pwyllgor o’r Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru).

7.2 Ystyriodd y Pwyllgor ei ddull o graffu ar y Bil yng Nghyfnod 1 a chytunodd arno.