Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Darren Millar.

 

(09:15 - 09:30)

2.

Sesiwn ddilynol i'r sesiwn graffu gyffredinol gyda'r Prif Swyddog Deintyddol (Rhagfyr 2013)

Cofnodion:

2.1 Ailedrychodd y Pwyllgor ar y dystiolaeth a gafwyd gan y Prif Swyddog Deintyddol yn ystod y sesiwn graffu gyffredinol a gynhaliwyd yn nhymor yr hydref a chytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad i wasanaethau orthodontig yng Nghymru.

 

(09:30 - 10:10)

3.

Ymchwiliad i waith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru - ystyried y prif faterion

Cofnodion:

3.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y materion allweddol a godwyd yn ystod gwaith craffu'r Pwyllgor ar waith Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) a chytuno arnynt.

 

(10:10 - 10:50)

4.

Trafodaeth gychwynnol ar gynllun strategol y Pwyllgor ar gyfer gweddill y Pedwerydd Cynulliad

Cofnodion:

4.1 Cynhaliodd y Pwyllgor drafodaeth gychwynnol ar ei gynllun strategol ar gyfer gweddill y Pedwerydd Cynulliad.

 

4.2 Cytunodd y Pwyllgor i ymchwilio i'r meysydd canlynol i'w hystyried ymhellach:

 

·         Gwasanaethau orthodontig

·         Cynllun cyflawni ar gyfer canser

·         Gofal iechyd mewn carchardai

·         Talu am ofal

·         Gwaith craffu ôl-ddeddfwriaethol ar Fesur Iechyd Meddwl (Cymru)

·         Cynllun cyflenwi ar gyfer clefyd yr afu

·         Gofal y galon

·         Clefyd / llid Crohn

 

4.3 Ymrwymodd y Pwyllgor i ddychwelyd i ymholiadau blaenorol i wneud gwaith craffu dilynol, gan flaenoriaethu'r pynciau canlynol yn y lle cyntaf:

 

·         Gofal heb ei drefnu - bod yn barod ar gyfer gaeaf 2013-14

·         Fferylliaeth gymunedol

·         Marw-enedigaethau

·         Gwasanaethau cadeiriau olwyn

 

4.4 Cytunodd y Pwyllgor i barhau i gynnal sesiynau craffu cyffredinol gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, y Prif Swyddogion Iechyd Proffesiynol, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.

 

4.5 Cytunodd y Pwyllgor hefyd i gadw hyblygrwydd o fewn y flaenraglen waith er mwyn ystyried deddfwriaeth ac unrhyw fater brys neu bwysig a allai godi yn ystod gweddill y Pedwerydd Cynulliad.

 

 

(11:00 - 12:00)

5.

Ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru - sesiwn friffio ragarweiniol gan yr ymgynghorydd arbenigol

Dr Alex Faulkner, cynghorwr arbenigol ar gyfer yr ymchwiliad

 

Cofnodion:

5.1 Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad rhagarweiniol gan Dr Alex Faulkner, sydd wedi ei benodi yn ymgynghorydd arbenigol i'r Pwyllgor at ddibenion yr ymchwiliad i fynediad i dechnolegau meddygol yng Nghymru.

 

(13:00 - 13:30)

6.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Plant a Theuluoedd - Sesiwn graffu gyffredinol gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Ymatebodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dr Ruth Hussey, y Prif Swyddog Meddygol, i gwestiynau gan aelodau'r pwyllgor.

 

6.2 Cytunodd y Prif Swyddog Meddygol y byddai'n ceisio adolygu'r dystiolaeth yn ymwneud â'r effaith y gallai pecynnau plaen ei chael ar ddewis ysmygwyr o sigaréts tar isel. Cytunodd i ymateb i'r cwestiwn hwn mewn pryd ar gyfer y ddadl Cyfarfod Llawn, sydd i'w chynnal ar 21 Ionawr, ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol perthnasol.

 

6.3. Gofynnodd y Pwyllgor fod y llythyr yr ysgrifennodd y Gweinidog at Weinidog y DU dros iechyd cyhoeddus ynghylch rheoleiddio pecynnau manwerthu cynhyrchion tybaco gael ei rannu cyn y ddadl Cyfarfod Llawn yr wythnos nesaf, os nad yw eisoes yn ddogfen gyhoeddus. Dywedodd y Gweinidog y gall fod cyfyngiadau sy'n ymwneud â chyfathrebu rhwng y Gweinidogion ond byddai'n ystyried beth ellid ei wneud.

 

7.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 5 a 11 Rhagfyr 2013.

 

7a

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol wedi’i gyfeirio at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, mewn perthynas â’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7a.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

7b

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau mewn perthynas â deiseb yn ymwneud â chanslo llawdriniaeth orthopedig yn ystod misoedd y gaeaf ym Mwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3b.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

7c

Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ymwneud â’r adolygiad o Fframwaith Gofal Iechyd Parhaus y GIG

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7c.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

7d

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus mewn perthynas â gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7D.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.