Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Polisi: Llinos Dafydd 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau oddi wrth Lynne Neagle. Roedd Mike Hedges yn dirprwyo ar ran Mick Antoniw ar gyfer eitemau 1-4. Roedd Julie Morgan yn dirprwyo ar ran Vaughan Gething ar gyfer eitemau 1-6.

 

(09:00-09:45)

2.

Y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 1

Mick Antoniw AC, yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru)

Vaughan Gething AC

Paul Davies, Aelod Cyswllt o Athrofa Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru

 

Y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) fel y'i cyflwynwyd

 

Memorandwm Esboniadol

 

Cofnodion:

2.1 Bu’r Pwyllgor yn clywed tystiolaeth gan Mick Antoniw AC, yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil, yn ogystal â Vaughan Gething AC, Mr Paul Davies a Mrs Joanest Jackson.

(09:45)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Eitemau 4, 7,8 & 12

Cofnodion:

3.1 Yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(ix),penderfynodd y Pwyllgor gyfarfod yn breifat ar gyfer eitemau 4, 7, 8 a 12.

(09:45-10:00)

4.

Y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru): trafod tystiolaeth yr Aelod sy'n gyfrifol am y Bil

Cofnodion:

4.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod yr eitem hon mewn sesiwn breifat.

(10:00-10:45)

5.

Y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 2

HSC(4)-01-13 papur 1

HSC(4)-01-13 papur 2

 

Ymwybyddiaeth Asbestos a Chefnogaeth Cymru

 

Joanne Barnes-Mannings, Swyddog Allgymorth Cymunedol

Lorna Johns, Swyddog Ymchwil a Datblygu Strategol

 

Fforwm Grwpiau Cymorth Dioddefwyr Asbestos y DU

 

Tony Whitston, Cadeirydd, Fforwm Grwpiau Cymorth Dioddefwyr Asbestos y DU

Marie Hughes, Cymorth Mesothelioma (Grŵp Cymorth Dioddefwyr Manceinion Fwyaf)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Bu’r Pwyllgor yn clywed tystiolaeth gan gynrychiolwyr o Ymwybyddiaeth a Chefnogaeth Asbestos Cymru a Fforwm Grwpiau Cymorth Dioddefwyr Asbestos y DU.

(10:45 – 11:30)

6.

Y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 3

HSC(4)-01-13 papur 3

 

Undebau Llafur

Uno’r Undeb a GMB Cymru a De Orllewin Lloegr

 

Hannah Blythyn, Cydgysylltydd Ymgyrchoedd a Pholisi Uno’r Undeb

Mike Payne, Swyddog Rhanbarthol, GMB

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Bu’r Pwyllgor yn clywed tystiolaeth gan gynrychiolwyr o undebau llafur y GMB a UNITE.

(11:30 - 11:45)

7.

Y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru): trafod cynghorwyr arbenigol

HSC(4)-01-13 papur 4

Cofnodion:

7.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y papur a gofynnodd i’r clercod gysylltu â’r ymgeiswyr a awgrymwyd.

(11:45 - 12:15)

8.

Y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru): Briff Ffeithiol

Rob Pickford - Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant, Llywodraeth Cymru

Julie Rogers  - Dirprwy Gyfarwyddwraig Is-adran Deddfwriaeth a Polisi Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru

Cofnodion:

8.1 Cafodd y Pwyllgor friff ffeithiol gan swyddogion Llywodraeth Cymru.

Toriad

Gohiriwyd y cyfarfod rhwng 12.01 a 13.30

(13.30 - 14.15)

9.

Cynlluniau i ad-drefnu byrddau iechyd - tystiolaeth gan Ddeoniaeth Cymru

HSC(4)-01-13 papur 5

 

          Yr Athro Derek Gallen, Deon Uwchraddedigion

          Yr Athro Peter Donnelly, Dirprwy Ddeon Uwchraddedigion

Dr Helen Fardy, Arweinydd Ad-drefnu Gwasanaethau Pediatrig

Dr Jeremy Gasson, Arweinydd Ad-drefnu Gwasanaethau Obstetreg a Gynaecoleg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Bu’r tystion yn ymateb i gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.

(14.15 - 15.00)

10.

Cynlluniau i ad-drefnu byrddau iechyd - tystiolaeth gan y Fforwm Clinigol Cenedlaethol

HSC(4)-01-13 papur 6

 

Yr Athro Michael Harmer, Cadeirydd

Mary Burrows, Prif Weithredwr Arweiniol GIG Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

10.1 Bu’r tystion yn ymateb i gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.

 

11.

Papurau i'w nodi

Cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 29 Tachwedd a 5 Rhagfyr 2012

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

11.1 Cymeradwyodd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 29 Tachwedd a 5 Rhagfyr 2012.

11a

Y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru): Llythyr o'r Llywydd

HSC(4)-01-13 paper 7

HSC(4)-01-13 paper 7 (atodiad)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

11.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

11b

Y Blaenraglen Waith - mis Ionawr i fis Chwefror 2013

HSC(4)-01-13 papur 8

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

11.3 Nododd y Pwyllgor y papur.

12.

Y Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru): trafod y rheoliadau drafft

Cofnodion:

12.1 Bu’r Aelodau’n trafod y Rheoliadau drafft a chytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at y Gweinidog i godi’r materion a nodwyd.

Trawsgrifiad