Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Mark Isherwood AC a Gwenda Thomas AC. Dirprwyodd John Griffiths AC ar ran Gwenda Thomas AC yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.

1.3 Gwnaeth Alun Davies AC a Janet Finch-Saunders AC ddatganiadau o fuddiant fel landlordiaid yn y sector rhentu preifat.

 

(09.15 - 10.15)

2.

Y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 2 - Cymdeithas y Cyfreithwyr

Jane Plant, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfraith Tai, Cymdeithas y Cyfreithwyr

Rhiannon Price, aelod o Bwyllgor Cyfraith Tai, Cymdeithas y Cyfreithwyr

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·         Jane Plant, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfraith Tai, Cymdeithas y Cyfreithwyr

·         Rhiannon Price, aelod o'r Pwyllgor Cyfraith Tai, Cymdeithas y Cyfreithwyr

 

·         Cytunodd Cymdeithas y Cyfreithwyr i ddarparu gwybodaeth ychwanegol ar ddichonolrwydd ehangu'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl yng Nghymru i ddatrys anghydfodau sy'n codi o dan y Bil, yn hytrach na dibynnu ar y llysoedd.

 

 

(10.30 - 11.30)

3.

Y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 3 - Let Down in Wales, Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru, Tenantiaid Cymru

Liz Silversmith, Let Down in Wales

Steve Clark, Tenantiaid Cymru

Beth Button, Llywydd, Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·         Liz Silversmith, Let Down in Wales

·         Steve Clark, Tenantiaid Cymru

·         Beth Button, Llywydd, UCM Cymru

 

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod (trafodaeth ar y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 3, trafod yr ymgynghoriad ar God Ymarfer ar y Sector Rhentu Preifat ar gyfer Landlordiaid ac Asiantau, ystyried yr adroddiad drafft ar yr ymchwiliad i Dlodi yng Nghymru elfen 1, ac ystyried y dull o graffu ar y Bil Amgylchedd Hanesyddol (Cymru))

Cofnodion:

4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig

 

(11.30 - 11.45)

5.

Y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru): trafodaeth ar y dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod sesiynau 2 a 3

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod sesiynau 2 a 3. 

 

(11.45 - 12.00)

6.

Trafod yr ymgynghoriad ar God Ymarfer ar y Sector Rhentu Preifat ar gyfer Landlordiaid ac Asiantau

Cofnodion:

6.1 Ystyriodd y Pwyllgor ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar God Ymarfer ar y Sector Rhentu Preifat Ymarfer ar gyfer Landlordiaid ac Asiantau a chytunodd i ymchwilio ymhellach i'r mater.

 

(12.00 - 12.30)

7.

Ymchwiliad i Dlodi yng Nghymru Elfen 1: ystyried yr adroddiad drafft

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft.

 

(12.30 - 12.45)

8.

Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru): Ystyried dull craffu’r Pwyllgor

Cofnodion:

8.1 Ystyriodd y Pwyllgor ei ddull o graffu ar Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), yn amodol ar y Bil yn cael ei gyflwyno.