Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Mark Isherwood a Gwenda Thomas AC. Dirprwyodd John Griffiths AC ar ran Gwenda Thomas AC yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.    

1.3 Gwnaeth Alun Davies AC a Janet Finch-Saunders AC ddatganiadau o fuddiant fel landlordiaid yn y sector rhentu preifat.

 

(09.45 - 11.15)

2.

Bil Rhentu Cartrefi (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 1 – y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Simon White, Rheolwr y Bil, Llywodraeth Cymru

Neil Buffin, Uwch Gyfreithiwr, Y Gwasanaethau Cyfreithiol, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, a’i swyddogion.

 

2.2 Cytunodd y Gweinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor gyda:

·         esboniad o sut mae’r diffiniad o ‘ofalwr’ yn y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru) yn wahanol i’r diffiniad a ddefnyddir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a’r rhesymau dros y gwahaniaethau hyn; a

·         manylion am unrhyw dystiolaeth yn ymwneud â nifer yr honiadau troi allan er mwyn dial yng Nghymru.

 

 

3.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nododd y Pwyllgor y papur.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod (trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2, ac ystyried yr adroddiad drafft ar y Bil Llywodraeth Leol (Cymru)).

Cofnodion:

4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(11.15 - 11.25)

5.

Y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru): trafod y dystiolaeth a ddaeth i law yn sesiwn 1

Cofnodion:

5. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi a’i swyddogion.

 

5.1

Y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru): ymatebion i’r ymgynghoriad

Dogfennau ategol:

(11.25 - 12.10)

6.

Y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru): ystyried yr adroddiad drafft

Cofnodion:

6. Trafododd y Pwyllgor yr Adroddiad Drafft.