Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

1.1.      Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

1.2.      Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gwenda Thomas AC; dirprwyodd John Griffiths AC ar ran Gwenda Thomas AC yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.

1.3.      Gwnaeth Alun Davies AC a Janet Finch-Saunders AC ddatganiadau o fuddiant fel landlordiaid yn y sector rhentu preifat. Gwnaeth Rhodri Glyn Thomas AC ddatganiad o fuddiant fel tenant yn y sector rhentu preifat.

 

 

(09.15 - 10.30)

2.

Y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru): Sesiwn Dystiolaeth 7 - Y Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad, Urdd y Landlordiaid Preswyl, Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid, Cymdeithas y Landlordiaid Preswyl

Karen Anthony, Y Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad

Adrian Thompson, Urdd y Landlordiaid Preswyl

Lee Cecil, Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid

Douglas Haig, Cymdeithas y Landlordiaid Preswyl

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·         Karen Anthony, y Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad

·         Adrian Thompson, Urdd y Landlordiaid Preswyl

·         Lee Cecil, Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid

·         Douglas Haig, Cymdeithas y Landlordiaid Preswyl

 

2.2 Cytunodd Mr Haig i roi gwybodaeth ychwanegol i’r Pwyllgor ynghylch:

·         barn Cymdeithas y Landlordiaid Preswyl ar y materion gorfodi ehangach sy'n ymwneud â'r Bil Rhentu Cartrefi.

·         codiadau rhent a rheoli rhent, a chytunodd hefyd i rannu gyda'r Pwyllgor adroddiad cysylltiedig gan yr Athro Michael Ball.

 

2.3 Cytunodd Mr Cecil i roi gwybodaeth ychwanegol i'r Pwyllgor ynghylch barn Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid ar y materion gorfodi ehangach sy'n ymwneud â'r Bil Rhentu Cartrefi. 

 

(10.45 - 11.45)

3.

Y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 8 - Cymdeithas Asiantaethau Gosod Preswyl a Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig

David Cox, Y Gymdeithas Asiantaethau Gosod Preswyl

Tom Jones, Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·         David Cox, Cymdeithas Asiantaethau Gosod Preswyl

·         Tom Jones, Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd ar gyfer eitem 5

Cofnodion:

4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar gynnig i wahardd y cyhoedd o weddill sesiwn y bore i ystyried eitemau 5 a 10.

 

 

(11.45 - 12.00)

5.

Y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru): trafodaeth ar y dystiolaeth a ddaeth i law yn sesiynau 7 a 8

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod sesiynau 7 ac 8.  

 

(13.00 - 14.00)

6.

Y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 9 - Cyngor ar Bopeth Cymru a Shelter Cymru

Elle McNeil, Cyngor ar Bopeth Cymru

Jennie Bibbings, Shelter Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·         Elle McNeil, Cyngor ar Bopeth Cymru

·         Jennie Bibbings, Shelter Cymru

6.2 Cytunodd Ms Bibbings i edrych ar waith achos a rhoi gwybodaeth ychwanegol i'r Pwyllgor ynghylch ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn cael ei ddefnyddio fel sail ar gyfer troi allan.

 

7.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Nododd y Pwyllgor y papur.

 

 

8.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

8.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

 

(14.00 - 14.10)

9.

Y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru): trafodaeth ar y dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod sesiwn 9

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod sesiwn 9.

 

(14.15 - 14.35)

10.

Trafod yr ymgynghoriad ar God Ymarfer ar y Sector Rhentu Preifat ar gyfer Landlordiaid ac Asiantau

Cofnodion:

10.1 Nododd y Pwyllgor ymgynghoriad presennol Llywodraeth Cymru ar God Ymarfer ar y Sector Rhentu Preifat ar gyfer Landlordiaid ac Asiantau a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi i geisio rhagor o wybodaeth am yr amserlenni ar gyfer cwblhau'r Cod.