Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sarah Beasley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau
a’r cyhoedd i’r cyfarfod. 1.2
Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb
gan Gwenda Thomas AC, Mike Hedges AC, Jocelyn Davies AC a Mark Isherwood
AC. Dirprwyodd John Griffiths AC, Lynne Neagle
AC, Bethan Jenkins AC a Suzy Davies AC ar eu rhan yn unol â Rheol Sefydlog
17.48. |
||
(09.15 - 10.45) |
Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 8 - y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Ken Skates AC, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Gwilym Hughes, Prif Arolygydd, Cadw Eifiona Williams, Cyfreithiwr, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Bil yr Amgylchedd
Hanesyddol (Cymru) Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Clywodd
y Pwyllgor dystiolaeth gan: ·
Ken Skates AC, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ·
Gwilym Hughes, Prif Arolygydd, Cadw ·
Eifiona Williams, Cyfreithiwr, Llywodraeth Cymru 2.2 Cytunodd y Dirprwy Weinidog i
ddarparu'r canlynol: ·
Y sail ar gyfer yr amcangyfrifiad o gostau o ran gosod dyletswydd statudol
ar awdurdodau lleol i greu a chynnal rhestrau lleol o asedau hanesyddol; ·
Yr amserlen ar gyfer adroddiad y Panel Arbenigol ar yr adolygiad mewn
perthynas â darparu amgueddfeydd yn y dyfodol a'u cynaliadwyedd; ·
Y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed yn erbyn argymhelliad y
Pwyllgor yn ei adroddiad yn 2013 ar Bolisi Amgylchedd Hanesyddol Llywodraeth
Cymru; sef y dylai Llywodraeth Cymru ymchwilio i opsiynau o ran cyflwyno system
sy'n golygu y bydd y perchennog newydd yn cael canllawiau clir gan yr awdurdod
lleol ynghylch y cyfyngiadau a'r cyfrifoldebau sy'n gysylltiedig â'r statws
rhestredig, a hynny mewn achosion lle mae chwiliadau awdurdod lleol yn dangos
bod adeilad yn rhestredig a/neu mewn ardal gadwraeth; ·
Manylion am y dadansoddiad o'r wyth cytundeb partneriaeth treftadaeth sydd
wedi'u treialu yn Lloegr. |
|
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1
Nododd y Pwyllgor y papurau. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 4.1
Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig. |
||
(10.45 - 11.30) |
Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru): trafod y dystiolaeth a gafwyd yn sesiwn 8 a thrafod y materion allweddol Cofnodion: 5.1 Bu'r
Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a gafwyd ac yn ystyried y materion allweddol,
er mwyn llywio ei adroddiad Cyfnod 1. |
|
(11.30 - 11.45) |
Ymchwiliad i Dlodi yng Nghymru: dulliau cymunedol o drechu tlodi - trafod y papur cwmpasu Cofnodion: 6.1
Trafododd y Pwyllgor y papur cwmpasu a chytuno ar ei ymagwedd o ran yr
ymchwiliad i dlodi yng Nghymru: dulliau cymunedol o drechu tlodi. |
|
(11.45 - 12.00) |
Y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru): trefn y drafodaeth ar gyfer trafodion Cyfnod 2 Cofnodion: 7.1
Trafododd a chytunodd y Pwyllgor ar drefn y drafodaeth ar gyfer trafodion
Cyfnod 2 ar gyfer y Bil Rhentu Cartrefi
(Cymru): adrannau 7 i 29, adrannau 31 i 88, adrannau 90 i 101, adrannau
103 i 119, adrannau 121 i 131, adrannau 133 i 145, adrannau 147 i 255,
Atodlenni 2 i 11, adran 30, adran 89, adran 102, adran 120, adran 132, adran
146, adrannau 1 i 4, Atodlen 1, adrannau 5 i 6, Teitl hir. |
|
(12.00 - 12.15) |
Trafod y flaenraglen waith Cofnodion: 8.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith ar gyfer
tymor yr hydref. |