Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd

Cyswllt: Sarah Beasley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.

 

 

(9.00 - 9.45)

2.

Craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-2016 - Sesiwn dystiolaeth gyda’r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth a’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Jo Salway, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllidebu Strategol

Amelia John, Pennaeth yr Is-adran Dyfodol Tecach

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth. 

Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

 

2.2 Cytunodd y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth i ddarparu:

  • cofnodion o bob cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd gan Grŵp Ymgynghorol y Gyllideb ar gyfer Cydraddoldeb (BAGE);
  • cofnodion eu cyfarfod a gynhelir yn fuan â BAGE, ar 23 Hydref, sydd i bwrpas trafod y gyllideb ddrafft.

 

(9.45 - 11.15)

3.

Craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-2016 - Sesiwn dystiolaeth gyda’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Leighton Andrews AC, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr, Llywodraeth Leol

Debra Carter - Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllid a Pherfformiad Llywodraeth Leol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Leighton Andrews AC, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

3.2 Cytunodd y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus i ddarparu:

  • rhestr o’r adnoddau a sefydlwyd i gefnogi meysydd gweithgarwch fel rhan o waith atal Llywodraeth Cymru o ran cynaliadwyedd a’r Gymraeg;
  • nodyn ar sefyllfa Llywodraeth Cymru o ran y camau ataliol gorau ar gyfer targedu’r rhai sydd mewn perygl mwyaf o farwolaeth ac anafiadau mewn tân.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: eitemau 5 a 6

Cofnodion:

4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(11.15 - 11.25)

5.

Craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-2016 - trafod sesiynau tystiolaeth 1 a 2

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth.

 

(11.25 - 12.00)

6.

Y Bil Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru): trafod y prif faterion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol sydd i’w cynnwys yn ei adroddiad.

 

 

(13.00 - 14.30)

7.

Craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-2016 - Sesiwn dystiolaeth gyda’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Kate Cassidy, Cyfarwyddwr, Cymunedau a Threchu Tlodi

John Howells, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio

Peter Jones, Pennaeth Cyllid, Llywodraeth Leol a Chymunedau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi.

 

7.2 Cytunodd y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi i ddarparu:

  • nodyn sy’n tynnu sylw at y 19-20 dangosydd perfformiad allweddol ar gyfer Cymunedau yn Gyntaf, gan gynnwys y canlyniadau ar gyfer y dangosyddion, ac ar gyfer y buddsoddiad Cymunedau yn Gyntaf. Bydd y nodyn hefyd yn egluro sut y mae’r Gweinidog yn strwythuro dangosyddion perfformiad allweddol, er gwybodaeth i’r Pwyllgor.             
  • nodyn gydag enghreifftiau ac arddangosiadau penodol o sut y mae gweithgareddau Cymunedau yn Gyntaf yn gwella bywydau’r rhai sy’n gysylltiedig â’u gwaith;
  • nodyn hefyd ar y cynllun Troi Tai’n Gartrefi, i ystyried cynnwys prynwyr tai sy’n bwriadu adnewyddu eiddo i fyw ynddynt eu hunain, yn hytrach nag i’w gosod neu i’w gwerthu;
  • os yw ar gael, nodyn gwerthuso ar y cynllun marchnata a arweinir gan Undeb Credyd Gogledd Cymru, a oedd yn targedu pobl a oedd yn ennill incwm canolog i incwm uchel;
  • ffigurau o ran y bobl sy’n cael dedfrydau o garchar o ganlyniad i ddyled.

 

(14.30 - 15.30)

8.

Craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-2016 - Sesiwn dystiolaeth gyda’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

Ken Skates AC, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

Huw Brodie, Cyfarwyddwr Diwylliant a Chwaraeon

Huw Davies, Pennaeth Cyllid, Diwylliant a Chwaraeon

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ken Skates AC, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.

 

8.2 Cytunodd y Dirprwy Weinidog i ddarparu:

  • Nodyn ar y canlyniadau disgwyliedig a ddarparwyd i gyrff yn y llythyrau cylch gwaith blynyddol, a chynnydd y sefydliadau yn ôl y canlyniadau hyn;
  • Nodyn ar y newidiadau i’r drefn gomisiynu ar gyfer Cyngor Llyfrau Cymru.

 

9.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.

 

10.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o eitemau 1 a 2 o’r cyfarfod ar 23 Hydref 2014

Cofnodion:

10.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(15.30 - 15.40)

11.

Craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-2016 - trafod sesiynau tystiolaeth 3 a 4

Cofnodion:

11.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth.