Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Cyswllt: Polisi: Marc Wyn Jones / Deddfwriaeth: Bethan Davies
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Etholwyd Joyce Watson yn Gadeirydd dros dro, yn unol â Rheol Sefydlog 17.22. Cafwyd ymddiheuriadau gan Ann Jones a Janet Finch Saunders ac nid oedd dirprwyon. |
||
(09.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn Eitemau 3 a 4 Cofnodion: Cytunwyd ar y cynnig. |
|
(09.30 - 10.30) |
Sesiwn i roi gwybodaeth friffio dechnegol am 'Cartrefi i Gymru: Papur Gwyn ar gyfer Bywyd Gwell a Chymunedau Gwell' Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor frîff ar Cartrefi i Gymru: Papur Gwyn ar gyfer Bywyd Gwell a Chymunedau Gwell. Holodd yr Aelodau y swyddogion oedd yn bresennol. |
|
(10.30 - 10.40) |
Blaenraglen waith y pwyllgor - craffu ar y gyllideb Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar y broses o graffu ar y gyllideb nesaf, a chytunodd y Clerc i anfon rhagor o fanylion i’r Aelodau ar e-bost yn ystod toriad yr haf. |
|
(10.40 - 11.15) |
Ymchwiliad i bolisi Llywodraeth Cymru ar yr amgylchedd hanesyddol - sesiwn dystiolaeth CELG(4)-17-12 – Papur 1 Cymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru Peter Gomer,
Cynghorydd Polisi Dros Dro - Hamdden, Diwylliant, Twristiaeth a Threftadaeth Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd Peter Gomer o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Holodd yr Aelodau y tyst. |
|
(11.15 - 12.00) |
Ystyried adroddiad blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2011-12 CELG(4)-17-12 – Papur 2 Peter Tyndall, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Susan Hudson, Rheolwr
Polisi a Chyfathrebu Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd Peter Tyndall, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a Susan Hudson, Rheolwr Polisi a Chyfathrebu, i’r Pwyllgor. Croesawodd y Pwyllgor yr adroddiad a holwyd yr Ombwdsmon ar yr adroddiad. Cytunodd yr Ombwdsmon i ddarparu nodyn i’r Pwyllgor ar y Panel Cynghori. |
|
Papurau i'w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: Nodwyd y papurau. |
||
CELG(4)-17-12 - Papur 3 - Tystiolaeth gan ITV Cymru ar gyfer yr ymchwiliad ynghylch pêl-droed Dogfennau ategol: |
||
CELG(4) -17-12 - Papur 4 - Gwybodaeth ychwanegol gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar gyfer yr ymchwiliad ynghylch pêl-droed Dogfennau ategol: |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Cofnodion: Cytunwyd ar y cynnig i gyfarfod yn breifat yn ystod eitemau 1 a 2 o’r cyfarfod ar 11 Gorffennaf. |
||
Trawsgrifiad View the meeting transcript. |