Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Cyswllt: Polisi: Marc Wyn Jones Legislation: Gareth Williams
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r Pwyllgor. Nid oedd dim ymddiheuriadau. Gwnaeth y Cadeirydd ddatganiad ei bod yn ddeiliad tocyn tymor Clwb Pêl-droed y Rhyl. |
||
(09:30 - 10:30) |
Ymchwiliad i Uwch Gynghrair Cymru - sesiwn dystiolaeth Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd Jonathan Ford a John Deakin o Gymdeithas Bêl-droed Cymru (FAW). Holodd yr Aelodau y tystion. Cytunodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru i ddarparu rhagor o wybodaeth i’r Pwyllgor am: - Y gefnogaeth bresennol a gaiff ei darparu gan lywodraeth ganolog a llywodraeth leol yng Nghymru i uwch gynghrair Cymru ac awgrymiadau ar gyfer cefnogaeth yn y dyfodol. - Y gwaith sy’n cael ei wneud o ran mynd i’r afael â hiliaeth ac ymestyn allan i gymunedau pêl-droed mwy amrywiol fel menywod, pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol. |
|
(10.30 - 11.10) |
Ymchwiliad i Uwch Gynghrair Cymru - sesiwn dystiolaeth Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd Neil Ward o Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru. Holodd yr Aelodau y tystion. Cytunodd yr Ymddiriedolaeth Bêl-droed i ddarparu rhagor o wybodaeth am y ganran o fenywod a phobl dduon a lleiafrifoedd ethnig sydd â chymwysterau hyfforddi. |
|
(11.10 - 11.40) |
Ymchwiliad i Uwch Gynghrair Cymru - sesiwn dystiolaeth Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd Tom Morgan, rheolwr Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth. Holodd yr Aelodau y tyst. |
|
(11.40) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 6. |
|
(11.40 - 12.40) |
Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol): Ystyried yr adroddiad drafft Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar Fil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol). |
|
Papurau i'w nodi CELG(4) – 11-12 – Papur 4 – Llythyr gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau Dogfennau ategol: Cofnodion: Nodwyd y papurau. |
||
Trawsgrifiad |