Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

2.

Ymchwiliad i ddarpariaeth tai fforddiadwy

(09.30 - 10.20)

2a

Y Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi a'r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol

CELG(4)-09-11 : Papur 1

CELG(4)-09-11 : Papur 2

 

Richard Price, Cynghorwr Cynllunio a Pholisi – Cymru, Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi

Andrew Crompton, Cyfarwyddwr Tir Rhanbarthol, Persimmon Homes

Dr Roisin Willmott, Cyfarwyddwr Cenedlaethol, y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Roisin Willmott o’r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol, Richard Price o’r Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi ac Andrew Crompton o Persimmon Homes.

 

Cytunodd y Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi i ddarparu nodyn ar yr eitemau a ganlyn:

 

Manylion ynghylch yr hyn yr hoffai’r ffederasiwn ei weld yn y Bil tai sydd ar ddyfod;

 

Y wybodaeth ddiweddaraf am argaeledd tir sydd â chaniatâd cynllunio ond nad yw’n cael ei ddefnyddio ar gyfer adeiladu tai; a

 

Nodyn ar y gwaith sy’n cael ei gyflawni yng nghanolbarth a gogledd Cymru ar ddarparu tai fforddiadwy, a hynny o fewn ardal adfywio strategol gogledd Cymru’n benodol.

(10.30 - 11.20)

2b

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

CELG(4)-09-11 : Papur 3

 

Steve Thomas, Prif Weithredwr

Y Cynghorydd Dyfed Edwards, Llefarydd Tai CLlLC ac Arweinydd Cyngor Gwynedd (drwy gyswllt fideo)

Sue Finch, Swyddog Polisi Tai CLlLC

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Steve Thomas, y Cynghorydd Dyfed Edwards (drwy fideo gynhadledd), Craig Mitchell a Sue Finch o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

(11.20 - 12.05)

2c

Llywodraeth Cymru

CELG(4)-09-11 : Papur 4

 

Huw Lewis AC, Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth

Ceri Breeze, Pennaeth Y Gyfarwyddiaeth Dai

Rhidian Jones, Uwch-swyddog Tai Fforddiadwy

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Huw Lewis AC, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, Ceri Breeze, Pennaeth y Gyfarwyddiaeth Dai a Rhidian Jones, Uwch-swyddog Tai Fforddiadwy.

3.

Papurau i'w nodi

CELG(4)-09-11 : Papur 5

 

Gwybodaeth atodol o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Hydref oddi wrth y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth.

 

CELG(4)-09-11 : Papur 6

 

Gwybodaeth atodol o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Hydref oddi wrth y Gweinidog Addysg a Sgiliau.

 

CELG(4)-09-11 : Papur 7

 

Gwybodaeth atodol o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Hydref oddi wrth Awdurdodau Heddlu Cymru

 

CELG(4)-09-11 : Papur 8

 

Gwybodaeth atodol o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Tachwedd oddi wrth Shelter Cymru

 

CELG(4)-09-11 : Papur 9

 

Gohebiaeth oddi wrth y Comisiwn Bil Iawnderau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nodwyd y papurau.

Trawsgrifiad