Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad ac Ymddiheuriadau

Cofnodion:

1.1 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

2.

Penderfyniad i sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i ystyried y rhagolygon ar gyfer dyfodol y cyfryngau yng Nghymru

Cofnodion:

2.1 Nododd yr Aelodau fod y Pwyllgor wedi penderfynu, mewn sesiwn breifat yn ei gyfarfod diwethaf, sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen i ystyried y rhagolygon ar gyfer dyfodol y cyfryngau yng Nghymru. Bydd y grŵp yn cynnal ei gyfarfod cyntaf ar 13 Hydref.

3.

Ymchwiliad i ddiogelwch cymunedol yng Nghymru

Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu, Awdurdodau Heddlu Cymru, a Ffederasiwn yr Heddlu (09.30 – 10.30)

CELG(4)-04-11 (p1)

CELG(4)-04-11 (p2)

CELG(4)-04-11 (p3)

·         Ian Arundale QPM, Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed Powys, Cymdeithas Prif Swyddogion Heddlu Cymru

·         y Cynghorydd Russell Roberts, Cadeirydd Awdurdodau Heddlu Cymru

·         Gary Bohun, Cadeirydd Ffederasiwn Heddlu De Cymru

 

Egwyl  (10.30 – 10.40)

 

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Swyddogion Diogelwch Cymunedol Cymru (10.40 – 11.10)

CELG(4)-04-11 (p4)

·         Naomi Alleyne, Cyfarwyddwr Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, CLlLC

·         Helena Hunt, Swyddog Diogelwch Cymunedol, Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent    

 

Rhwydwaith Sector Gwirfoddol Cyfiawnder Cymunedol Cymru (sesiwn dystiolaeth wedi’I chanslo)

CELG(4)-04-11 (p5) – ni dderbyniwyd papur

 

Undeb y GMB ac UNSAIN (11.10 – 11.40)

CELG(4)-04-11 (p6)

CELG(4)-04-11 (p7)

·         Jamie Marden, Swyddog Trefnu, Undeb y GMB

·         Gwylan Brinkworth, Heddlu De Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1Croesawodd y Cadeirydd y tystion a ganlyn: Ian Arundale QPM, - Cymdeithas Prif Swyddogion Heddlu Cymru (ACPO); y Cynghorydd Russell Roberts – Awdurdodau Heddlu Cymru; Gary BohunFfederasiwn yr Heddlu; Naomi AlleyneCymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; Helena Hunt – Swyddog Diogelwch Cymunedol Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent; Jamie MardenUndeb y GMB; a Gwylan BrinkworthHeddlu De Cymru

 

3.2 Cytunodd ACPO i ddarparu nodyn ar yr anghysonderau cyllidebu ledled Cymru.

 

3.3 Cytunodd CLlLC i ddarparu nodyn ar y dyletswydd cyffredinol posibl ar Gomisiynwyr yr Heddlu a Chomisiynwyr Troseddau neu’r canllawiau arnynt.

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Cytunwyd ar y cynnig.

5.

Cytuno ar ymchwiliad y Pwyllgor i'r dyfodol

Cofnodion:

5.1 Cytunodd y Pwyllgor y byddai ei ymghynghoriad nesaf yn archwilio darpariaeth tai fforddiadwy yng Nghymru.

 

5.2 Cytunodd y Pwyllgor ar Gylch Gorchwyl yr ymgynghoriad.

6.

Gwybodaeth am y gyllideb

Cofnodion:

6.1 Nododd y Pwyllgor yr amserlen ar gyfer ystyried cyllideb ddrafft y Llywodraeth.

7.

Papurau i'w nodi

Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor CyllidCraffu ar gynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2012-13

CELG(4)-04-11 (p8)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Nodwyd y papur.

Trawsgrifiad