Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

Cofnodion:

1.1 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau ac nid oedd unrhyw dirprwyon. 

2.

Cytuno'n ffurfiol ar enwebiadau i banel dethol Comisiynydd y Gymraeg

Cofnodion:

2.1 Gwnaeth William Graham enwebu Rhodri Glyn Thomas i gynrychioli’r Pwyllgor ar banel dewis Comisiynydd y Gymraeg. Eiliwyd yr enwebiad gan Joyce Watson ac fe’i cadarnhawyd gan y Pwyllgor. 

 

2.2 Dywedodd y Cadeirydd y byddai’n ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i’w hysbysu ynghylch yr enwebiad.

3.

Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Trafod materion o fewn y portffolio a chynigion ar gyfer y Flaenraglen Waith

Cofnodion:

3.1 Cytunodd y Pwyllgor mewn egwyddor i sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen ar ddarlledu. Byddai’r Pwyllgor yn cytuno ar gylch gorchwyl, aelodaeth a hyd bywyd y grŵp ar ôl y toriad.

 

3.2 Cytunodd y Pwyllgor i wneud dau ddarn o waith ar droseddau casineb yn erbyn pobl anabl a diogelwch cymunedol yn ystod tymor yr hydref.

4.

Papurau i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.

 

4.2 Dywedodd y Cadeirydd y byddai’r rhestr o ddyddiadau cyfarfodydd yn cael ei dosbarthu i’r Aelodau.

 

4.3 Nododd y Cadeirydd y byddai’r cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ddydd Mercher 21 Medi.

Trawsgrifiad