Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 399KB) Gweld fel HTML (337KB)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

 

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Bethan Jenkins AC a Gwenda Thomas AC.  Dirprwyodd John Griffiths AC ar ran Gwenda Thomas AC yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.

 

(09.00 - 10.00)

2.

Y Bil Llywodraeth Leol (Cymru) drafft: sesiwn dystiolaeth 1 - SOLACE

Alison Ward, Is-gadeirydd Solace Wales/Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

Alison Ward, Is-gadeirydd Cymdeithas Prif Weithredwyr ac Uwch-reolwyr Awdurdodau Lleol Cymru (Solace Cymru)

 

2.2 Datganodd yr Aelodau canlynol fuddiant perthnasol o dan Reol Sefydlog 17.24A:

·         Peter Black

·         Lindsay Whittle

 

2.3 Cytunodd Alison Ward i ddarparu manylion i'r Pwyllgor ynglŷn â sut y mae Solace yn credu y gallai cynghorau cymuned mwy o faint weithredu a pha gyfrifoldebau y gallent fod yn atebol amdanynt.

 

 

(10.15 - 11.15)

3.

Y Bil Llywodraeth Leol (Cymru) drafft: sesiwn dystiolaeth 2 - Swyddfa Archwilio Cymru

Anthony Barrett

Alan Morris

Martin Peters

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Anthony Barrett, Swyddfa Archwilio Cymru

·         Alan Morris, Swyddfa Archwilio Cymru

·         Martin Peters, Swyddfa Archwilio Cymru

 

3.2 Cytunodd Anthony Barrett i ddarparu manylion i'r Pwyllgor ynglŷn ag unrhyw ddadansoddiad o werth am arian a chostau/manteision a wnaed gan Swyddfa Archwilio Cymru ar ôl ad-drefnu awdurdodau lleol ym 1995/96.

 

 

 

 

(11.20 - 12.20)

4.

Y Bil Llywodraeth Leol (Cymru) drafft: sesiwn dystiolaeth 3 - cynrychiolwyr o'r undebau llafur

Dominic MacAskill, Rheolwr Rhanbarthol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Dominic MacAskill, Rheolwr Rhanbarthol

 

4.2 Datganodd yr Aelodau canlynol fuddiant perthnasol o dan Reol Sefydlog 17.24A:

  • Christine Chapman
  • Alun Davies
  • John Griffiths
  • Mike Hedges

5.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Nododd y Pwyllgor y papur.

 

 

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

6.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

 

(12.20 - 12.30)

7.

Y Bil Llywodraeth Leol (Cymru) drafft: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitemau 2, 3 a 4. 

 

(12.30 - 12.40)

8.

Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016/17 – Trafod yr ohebiaeth a gafwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Nododd y pwyllgor y llythyr gan Gomisiynydd y Gymraeg at y Prif Weinidog.