Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd

Cyswllt: Sarah Beasley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

1.1.      Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

1.2.      Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gwenda Thomas a Mark Isherwood.

 

 

2.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.

 

 

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

3.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

 

(09.05 - 09.35)

4.

Ymchwiliad i’r Adolygiad o Siarter y BBC - trafod gwaith yn y dyfodol

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor fanylion pellach ynghylch yr ymchwiliad i'r adolygiad o Siarter y BBC. Cytunwyd y dylid gwahodd pobl/sefydliadau ychwanegol i roi tystiolaeth.

 

(09.35 - 09.55)

5.

Ymchwiliad i Dlodi yng Nghymru: tlodi a lleoliad - trafod y dull gweithredu

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull gweithredu ar gyfer ail ran yr ymchwiliad i dlodi yng Nghymru, sy'n ymwneud â lleoliad, a chytunodd arno.

 

(09.55 - 10.10)

6.

Gohebiaeth gan y Pwyllgor Busnes - Etifeddiaeth y Pedwerydd Cynulliad

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor i roi ystyriaeth fwy manwl i'r ohebiaeth ac i ymateb i'r Pwyllgor Busnes ar ôl y toriad hanner tymor.

 

(10.10 - 10.20)

7.

Bil drafft Cymru - trafod y dull gweithredu

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull gweithredu ar gyfer craffu ar Fil drafft Cymru a chytunodd arno.

 

(10.20 - 10.30)

8.

Blaenraglen waith

Cofnodion:

8.1 Nododd y Pwyllgor y flaenraglen waith.