Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Sarah Beasley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 478KB) Gweld fel HTML (531KB)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1.      Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

1.2.      Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gwenda Thomas AC a Jocelyn Davies AC. Dirprwyodd John Griffiths AC ar ran Gwenda Thomas AC, yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.

 

 

(09.15 - 10.15)

2.

Ymchwiliad Etifeddiaeth: Prif Weinidog Cymru

Y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru

Bethan Webb, Dirprwy Gyfarwyddwr, Yr Iaith Gymraeg, Llywodraeth Cymru

Awen Penri, Pennaeth y Gangen Datblygu Cymraeg mewn Addysg, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·         Y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru

·         Bethan Webb, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Iaith Gymraeg, Llywodraeth Cymru

·         Awen Penri, Pennaeth y Gangen Datblygu Cymraeg Mewn Addysg, Llywodraeth Cymru

 

2.2 Datganodd Mike Hedges AC y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

·         Mae ei ferch yn mynychu ysgol cyfrwng Cymraeg a sefydliadau ieuenctid sy'n cael arian gan Fenter Iaith. Mae hefyd yn ymwneud â'r Urdd.

 

2.3 Datganodd Peter Black AC y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

·         Mae'n aelod o awdurdod addysg lleol.

 

(10.30 - 11.45)

3.

Ymchwiliad Etifeddiaeth: Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi a’r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

John Howells, Cyfarwyddwr, Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru

Amelia John, Dirprwy Gyfarwyddwr, Dyfodol Tecach, Llywodraeth Cymru

 

Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Jeff Andrews, Cynghorydd Polisi Arbennigol, Llywodraeth Cymru

Jo Salway, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllidebu Strategol, Llywodraeth Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·         Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

·         John Howells, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru

·         Amelia John, Dirprwy Gyfarwyddwr, Dyfodol Tecach, Llywodraeth Cymru

·         Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

·         Jo Salway, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllidebu Strategol, Llywodraeth Cymru

 

3.2 Datganodd Peter Black AC y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

·         Mae'n gynghorydd lleol.

 

3.3 Yn ystod y cyfarfod, cytunodd y Gweinidog i

·         Ysgrifennu at y Pwyllgor erbyn mis Mawrth 2016 yn rhoi gwybodaeth am ganlyniad gwaith y tasglu yn ystyried:

- sut i wella perfformiad gwasanaethau addasu cartrefi;

- sut i sicrhau bod pob gwasanaeth addasu yn cael ei werthuso'n effeithiol, a pherfformiad pob un yn cael ei fonitro, ac nid dim ond Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl.

·         Awgrymu bod y Gweinidog Cyfoeth Naturiol yn rhannu gyda'r Pwyllgor unrhyw waith cynllunio a wneir ar hyfywedd tir y comisiwn coedwigaeth mewn cysylltiad â datblygiadau tai.

·         Darparu gwybodaeth am faint o dir a ryddhawyd ar gyfer tai yn y ddwy flynedd diwethaf, a faint sy'n debygol o gael ei ryddhau yn y ddwy flynedd nesaf. 

 

 

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 5

Cofnodion:

4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(11.45 - 12.00)

5.

Ymchwiliad Etifeddiaeth: Prif Weinidog Cymru, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi a’r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth - ystyried tystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth.

 

(12.45 - 14.00)

6.

Ymchwiliad Etifeddiaeth: Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Leighton Andrews AC, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Owain Lloyd, Dirprwy Gyfarwyddwr, Diwygio Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru

Bon Westcott, Dirprwy Bennaeth Diogelwch Cymunedol, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·         Leighton Andrews AC, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

·         Owain Lloyd, Dirprwy Gyfarwyddwr, Diwygio Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru

·         Bon Westcott, Dirprwy Bennaeth Diogelwch Cymunedol, Llywodraeth Cymru

 

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

7.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

 

(14.00 - 14.05)

8.

Ymchwiliad Etifeddiaeth: Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus - ystyried tystiolaeth

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth.

 

 

(14.05 - 14.20)

9.

Ymchwiliad i Adolygiad Siarter y BBC - ystyried y papur cwmpasu

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor yr ymchwiliad i Adolygiad Siarter y BBC.

 

(14.20 - 15.00)

10.

Bil Amgylchedd Hanesyddol (Cymru): trafod yr adroddiad drafft

Cofnodion:

10.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft.