Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd

Cyswllt: Sarah Beasley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 231KB) Gweld fel HTML (269KB)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gwenda Thomas AC a Jocelyn Davies. Dirprwyodd John Griffiths AC ar ran Gwenda Thomas AC, yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.

 

(09.15 - 10.30)

2.

Ymchwiliad Etifeddiaeth: y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

Ken Skates AC, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

Manon Antoniazzi, Cyfarwyddwr, Twristiaeth, Treftadaeth a Chwaraeon, Llywodraeth Cymru

Kate Clark, Cyfarwyddwr, CADW

Natasha Hale, Dirprwy Gyfarwyddwr Sectorau a Busnes, Llywodraeth Cymru

Linda Tomos, Cyfarwyddwr, Is-adran  Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Datganodd Mike Hedges y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

·         Mae’n Llywydd Côr Merched Treforys, noddwr Côr Clwb Rygbi Treforys, cefnogwr Côr Orpheus Treforys, Llywydd Clwb Pêl-droed Ynystawe, Is-lywydd Clwb Pêl-droed Tref Treforys, aelod o Glwb Rygbi Treforys, ac yn gefnogwr Clybiau Rygbi Y Glais, Birchgrove a Bonymaen.

 

2.2 Datganodd Peter Black y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

·         Mae’n Aelod o Ddinas a Sir Abertawe.

 

2.3 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Ken Skates AC, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

·         Kate Clark, Cyfarwyddwr, CADW

·         Natasha Hale, Dirprwy Gyfarwyddwr y Sector a Busnes, Llywodraeth Cymru 

·         Jon Westlake - Pennaeth yr Is-adran Chwaraeon

 

2.4 Yn ystod y cyfarfod, cytunodd y Dirprwy Weinidog i ddarparu i’r Pwyllgor gopi o’r Memorandwm o Ddealltwriaeth a gytunwyd yn ddiweddar rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU mewn perthynas ag adolygiad Siarter y BBC. Cytunodd y Dirprwy Weinidog i ddarparu’r wybodaeth ychwanegol a ganlyn:

·         Gwaith Llywodraeth Cymru ar arfer gorau ledled Ewrop ynghylch dulliau amgen o ddenu cyllid ar gyfer y celfyddydau; yn gysylltiedig â hyn, dywedodd y Dirprwy Weinidog y byddai’n gofyn i Gyngor Celfyddydau Cymru ddarparu papur briffio ar gyfer Aelodau sy’n ymateb yn rhannol i’r gwaith hwn;

·         manylion yr adroddiad disgwyliedig gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn sgil ei asesiad cyfredol o effaith cyllid ar gyfer Celfyddydau a Busnes Cymru, a’i berfformiad; 

·         manylion am gapeli ac eglwysi rhestredig gwag/heb eu meddiannu, yn ôl gradd, a a mynwentydd/safleoedd claddu;

·         rhagor o wybodaeth am enghraifft Barcelona a nodwyd mewn perthynas â threfniadau ar gyfer delio ag adeiladau rhestredig gwag, gan gynnwys argaeledd pwerau i roi dirwyon;

·         rolau a chyfrifoldebau’r Grŵp Amgylchedd Hanesyddol, Bwrdd Ymgynghorol Amgylchedd Hanesyddol Cymru, a Grŵp Treftadaeth Cymru.

 

 

3.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.

 

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

 

(10.40 - 10.50)

5.

Ymchwiliad Etifeddiaeth: y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth.

 

(10.50 - 11.10)

6.

Trafod y flaenraglen waith

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith ar gyfer tymor yr hydref a chytunodd i ymgymryd â’r gwaith canlynol:

·         ymchwiliad i Adolygiad Siarter y BBC;

·         archwiliad o Fil Drafft Cymru Llywodraeth y DU mewn perthynas â chylch gwaith y Pwyllgor, cyn gynted â phosibl ar ôl i’r Bil drafft gael ei gyhoeddi;

·         craffu ar gyfrifoldebau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a’i adroddiad blynyddol;

·         craffu ar ddiwygiad arfaethedig Llywodraeth Cymru o’r Strategaeth Cynhwysiant Ariannol.

 

(11.10 - 12.30)

7.

Bil Amgylchedd Hanesyddol (Cymru): trafod yr adroddiad drafft

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft.