Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1.      Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.

1.2.      Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gwenda Thomas AC; dirprwyodd John Griffiths AC ar ran Gwenda Thomas AC yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.

1.3.      Gwnaeth Alun Davies AC a Janet Finch-Saunders AC ddatganiadau o fuddiant fel landlordiaid yn y sector rhentu preifat. Gwnaeth Rhodri Glyn Thomas AC ddatganiad o fuddiant fel tenant yn y sector rhentu preifat.

 

 

(09.15 - 10.00)

2.

Y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru): Sesiwn Dystiolaeth 10 - Cymdeithas Ymarferwyr Cyfraith Tai

Justin Bates, Cymdeithas Ymarferwyr Cyfraith Tai

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·         Justin Bates, Cymdeithas Ymarferwyr Cyfraith Tai 

 

(10.00 - 11.45)

3.

Y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru): Sesiwn Dystiolaeth 11 - Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Simon White, Rheolwr y Bil, Llywodraeth Cymru

Neil Buffin, Uwch Gyfreithiwr, Gwasanaethau Cyfreithiol, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·         Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

·         Simon White, Rheolwr y Bil, Llywodraeth Cymru

·         Neil Buffin, Uwch Gyfreithiwr, Gwasanaethau Cyfreithiol, Llywodraeth Cymru

3.2 Hoffai’r Pwyllgor ddeall y tybiaethau sy’n sail i’r ffigurau yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol. Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r wybodaeth hon. 

 

4.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.

 

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

 

(11.45 - 12.15)

6.

Y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru): trafodaeth ar y dystiolaeth a ddaeth i law yn sesiynau 10 ac 11 ac ystyried y prif themâu

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn hon, a bu hefyd yn ystyried y prif themâu sydd wedi codi wrth iddo graffu ar y Bil.

 

(12.15 - 12.30)

7.

Ymchwiliad i Dlodi yng Nghymru, Elfen 1: ystyried yr adroddiad drafft

Cofnodion:

7.1 Ni chyrhaeddodd y Pwyllgor yr eitem hon. Bydd y Pwyllgor yn trafod ei adroddiad drafft ar ôl toriad yr hanner tymor.