Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gwenda Thomas AC a Gwyn Price AC. Dirprwyodd Jeff Cuthbert AC a John Griffiths AC ar eu rhan yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.

 

 

(09.15 - 10.45)

2.

Bil Llywodraeth Leol (Cymru): Sesiwn Dystiolaeth 1 y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Leighton Andrews AC, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Gareth Thomas, Ymgynghorydd Polisi, Diwygio Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru

Sharon Barry, Cyfreithiwr, Tîm Llywodraeth Lleol, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau cefnogol:

Bil Llywodraeth Leol (Cymru)

Memorandwm Esboniadol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Leighton Andrews AC, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, a'i swyddogion.

 

2.2 Yn ystod y sesiwn, cytunodd y Gweinidog i ddarparu'r canlynol:

  • Yr amserlen ar gyfer y gwaith a gaiff ei wneud mewn perthynas ag uno awdurdodau lleol ar ôl 2016, gan gynnwys etholiadau, awdurdodau cysgodol ac ati.
  • Nodyn ynghylch yr amserlen ar gyfer adolygiadau o nifer y cynghorwyr o fewn cymunedau/wardiau, sydd wedi'u trefnu ar hyn o bryd i'w cynnal ar ôl cyhoeddi'r map o'r prif ardaloedd, a ddisgwylir yn ystod haf 2015.

 

3.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.

 

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o'r cyfarfod cyfan ar 11 Chwefror 2015 (dull craffu a briffio technegol mewn perthynas â'r Bil Rhentu Cartrefi; ystyried yr adroddiad drafft ar yr ymchwiliad i dlodi yng Nghymru).

Cofnodion:

4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

 

 

(11.00 - 11.10)

5.

Bil Llywodraeth Leol (Cymru): trafod y dystiolaeth a gafwyd yn sesiwn 1

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth.

 

11.10 - 11.25)

6.

Bil Llywodraeth Leol (Cymru): trafod sesiynau tystiolaeth ychwanegol

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor sesiynau tystiolaeth ychwanegol.

 

(11.25 - 11.40)

7.

Ystyried rhaglen waith y Comisiwn Ewropeaidd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor Raglen Waith y Comisiwn Ewropeaidd