Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gwenda Thomas.  Nid oedd unrhyw un yn dirprwyo.

 

 

(9.15 - 10.30)

2.

Ymchwiliad i Dlodi yng Nghymru (Elfen 1) - sesiwn dystiolaeth 10: Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Maureen Howell, Dirprwy Gyfarwyddwr, Trechu Tlodi, Llywodraeth Cymru

Eleanor Marks, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Gymunedau, Llywodraeth Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, a'i swyddogion.

 

2.2 Yn ystod y sesiwn, cytunodd y Gweinidog i ddarparu'r canlynol:

  • nodyn ar y gwaith a wnaed i fapio effaith polisiau economaidd ar dlodi;
  • y ffigurau ar gyfer proffil gwariant y Gronfa Cymorth Dewisol o fis Tachwedd 2014 hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol hon.

 

3.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.

 

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o eitem 1 o'r cyfarfod ar 22 Ionawr 2015 (dull i graffu ar y Bil Awdurdod Lleol (Cymru), yn amodol ar gyflwyno)

Cofnodion:

4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

 

(10.30 - 10.45)

5.

Ymchwiliad i Dlodi yng Nghymru (Elfen 1): trafod y dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod sesiwn 10

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth.

 

(10.45 - 11.00)

6.

Ystyried yr amserlen arfaethedig ar gyfer y Bil Awdurdod Lleol (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor yr amserlen arfaethedig ar gyfer y Bil Awdurdod Lleol (Cymru).