Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sarah Beasley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod. 1.2 Cafwyd
ymddiheuriadau am absenoldeb gan Mike Hedges a Gwenda Thomas. Nid oedd neb yn dirprwyo ar eu rhan. 1.3 Cafwyd
ymddiheuriad am absenoldeb gan Janet Finch-Saunders. Dirprwyodd William Graham ar ei rhan, yn unol
â Rheol Sefydlog 17.48. |
||
(09.15 - 10.15) |
Adroddiad Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2013/2014 Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus
Cymru Adroddiad Blynyddol 2013/14 Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor
dystiolaeth gan Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. 2.2 Cytunodd Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i ysgrifennu at y Pwyllgor gyda manylion am
lefelau’r indemniad a ddarperir gan awdurdodau lleol i aelodau mewn perthynas
ag achosion cod ymddygiad. |
|
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Nododd y Pwyllgor
y papurau. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 4.1 Derbyniodd y
Pwyllgor y cynnig. |
||
(10.15 - 10.25) |
Adroddiad Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2013/14 - trafod y dystiolaeth Cofnodion: 5.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth. |
|
(10.30 - 11.00) |
Briff Ffeithiol: Papur Gwyn ar Ddatganoli, Democratiaeth a Chyflawni - Comisiwn Staff y Gwasanaethau Cyhoeddus Judith Cole, Dirprwy Gyfarwyddwr Rhaglen Diwygio
Llywodraeth Leol: Cyllid Robin Jones, Tîm Polisi a Phrosectiau Biliau, Yr Is-adran
Democratiaeth Llywodraeth Leol Datganoli, Democratiaeth a Chyflawni Papur Gwyn –
Comisiwn Staff y Gwasanaethau Cyhoeddus http://wales.gov.uk/docs/dpsp/consultation/141021-staff-commission-consultation-cy.pdf Datganiad gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, 21
Hydref 2014 Cofnodion: 6.1 Cafodd y Pwyllgor
bapur briffio ffeithiol gan swyddogion Llywodraeth Cymru ar y Papur Gwyn ar
Ddatganoli, Democratiaeth a Chyflawni - Comisiwn Staff y Gwasanaethau
Cyhoeddus. |
|
(11.00 - 11.10) |
Ystyried blaenraglen waith Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.1 Bu’r Pwyllgor yn
trafod ei flaenraglen waith. |
|
(11.10 - 11.20) |
Ymchwiliad i Dlodi yng Nghymru: Crynodeb o’r dystiolaeth a gafwyd ar Elfen 1 yr ymchwiliad Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd mewn perthynas â’r ymchwiliad. |
|
(11.20 - 11.30) |
Y Bil Trais ar Sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) – Ystyried trafodion y Pwyllgor yn ystod Cyfnod 2 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 9.1 Trafododd y
Pwyllgor y modd y mae’n cynnal trafodion Cyfnod 2 a chytunodd i amrywio’r drefn
ar gyfer ystyried y Bil fel a ganlyn: – Adrannau 2-23 – Adran 1 – Teitl hir |
|
(11.30 - 11.40) |
Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3): y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth Dogfennau ategol:
Cofnodion: 10.1 Trafododd y
Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â’r Bil Busnesau
Bach, Menter a Chyflogaeth. |